Ymateb y Llywodraeth: Cynhaliaeth Plant: Ymgynghoriad Pwerau Mynediad a Gwybodaeth
Updated 26 March 2019
Cyflwyniad
1. Cyflwynwyd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) yn 2012. Mae鈥檙 gwasanaeth diwygiedig wedi ei lunio i fod yn fwy cost effeithiol ac i ddatrys nifer o鈥檙 problemau oedd yn gysylltiedig gyda鈥檙 Asiantaeth Cynnal Plant (CSA).
2. Roedd y diwygiadau yn cynnwys system technoleg gwybodaeth (IT) newydd a seilio鈥檙 cyfrifiad o atebolrwydd cynhaliaeth plant ar wybodaeth am incwm rhiant dibreswyl gan Gyllid a Thollau EM (HMRC).Yn yr ymateb yma i鈥檙 ymgynghoriad mae rhiant dibreswyl yn cyfeirio at y rhiant sy鈥檔 talu cynhaliaeth i鈥檙 rhiant y mae鈥檙 plentyn cymwys yn byw gyda hwy am y rhan fwyaf o amser.
3. Mae gan CMS ystod o bwerau i gael gwybodaeth angenrheidiol i gyfrifo atebolrwydd cynhaliaeth plant yn gywir a phan mae angen, ei orfodi. Roedd yr ymgynghoriad yma yn ceisio barnau ar newidiadau i ddwy elfen benodol o鈥檙 pwerau yma; cymhwyso gallu archwiliwr CMS i fynd i mewn i adeilad preifat ac ehangu鈥檙 rhestr gyfredol o sefydliadau sydd gan rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu gwybodaeth yn dilyn cais gan y CMS.
4. Mae Rheoliadau Gwybodaeth Cynnal Plant 2008 adrannau 3-6 yn gosod dyletswydd ar unigolion a sefydliadau i roi gwybodaeth os yn ofynnol i wneud hynny i鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau (neu Adran y Cymunedau yng Ngogledd Iwerddon), i sicrhau:
- y gellir adnabod ac olrhain y rhiant dibreswyl (pan bod angen)
- y gellir cyfrifo鈥檙 swm o gynhaliaeth plant sy鈥檔 daladwy gan y rhiant dibreswyl
- adennill swm o 么l-ddyledion cynhaliaeth plant gan y rhiant dibreswyl
5. Pan na roddir y wybodaeth sydd ei angen gan yr unigolion neu sefydliadau fel sy鈥檔 ofynnol o dan y Rheoliadau, mae adran 15 o Ddeddf Cynnal Plant 1991 (neu Erthygl 7 o Ddeddf Cynhaliaeth Plant (Gogledd Iwerddon) 1991) yn caniat谩u i archwiliwr, a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu鈥檙 Adran Cymunedau yng Ngogledd Iwerddon i鈥檞 gael drwy archwilio adeiladau penodol lle mae鈥檔 bosib fod y wybodaeth yn cael ei chadw.
6. Mae ein newidiadau arfaethedig yn anelu at symleiddio鈥檙 broses ar gyfer casglu gwybodaeth a thystiolaeth, drwy leihau鈥檙 angen i ymweld ag adeiladau ble y cedwir gwybodaeth, tra鈥檔 darparu diogelwch i鈥檙 cyhoedd pan y bydd yn angenrheidiol i archwiliwr ymweld 芒鈥檙 adeilad i gael gwybodaeth.
7. Mae鈥檙 ymateb yma i鈥檙 ymgynghoriad yn gosod allan sut rydym yn bwriadu cyflawni hyn, ar 么l rhoi ystyriaeth briodol i鈥檙 ymatebion i鈥檙 ymgynghoriad cyhoeddus ar ein cynigion mewn perthynas 芒 darpariaethau p诺er mynediad, a newidiadau i gynnwys benthycwyr morgais a darparwyr pensiwn galwedigaethol ar y rhestr o sefydliadau y mae鈥檔 ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth i ni ar gais.
Crynodeb gweithredol
8. Ar 14 Ionawr 2019 fe gyhoeddodd y Llywodraeth 鈥楥ynhaliaeth Plant: ymgynghoriad 鈥�. Pwerau Mynediad a Gwybodaeth鈥� Cyflwynodd yr ymgynghoriad cyhoeddus yma gynigion gyda鈥檙 bwriad o wella ymhellach y broses o gasglu gwybodaeth a darparu diogelwch i鈥檙 cyhoedd.
9. Pan gyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar 14 Ionawr 2019 gwnaethom ysgrifennu at amrywiaeth o randdeiliaid yr oeddem yn rhagweld y byddai gan diddordeb yn y newidiadau yma gan eu gwahodd i ymateb i鈥檙 ymgynghoriad. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 11 Chwefror 2019. Derbyniwyd 22 o ymatebion: dau gan sefydliadau a 20 gan unigolion preifat, o鈥檙 rhain nododd 13 eu bod yn rhieni dibreswyl ac un yn rhiant sy鈥檔 cael cynhaliaeth. Mae rhestr lawn o鈥檙 sefydliadau oedd wedi ymateb i鈥檞 gweld yn Atodiad A.
10. Roedd yr ymgynghoriad yn gwahodd ymatebion i 5 cwestiwn am ein cynigion i ddiogelu ymhellach y pwerau mynediad i adeiladau yn adran 15 o鈥檙 Ddeddf Cynnal Plant 1991 ac i ehangu鈥檙 rhestr o鈥檙 rhai mae鈥檔 ofynnol iddynt gydymffurfio gyda cheisiadau am wybodaeth o dan Reoliadau Gwybodaeth Cynnal Plant 2008 i gynnwys darparwyr pensiwn a benthycwyr morgais.
11. Nid oedd yr holl ymatebwyr wedi dewis ateb y cwestiynau penodol a ofynnwyd, ac roedd yn well gan rai rhoi eu barn ar y cynigion yn gyffredinol. Ble mae鈥檔 bosibl, rydym wedi ceisio adlewyrchu鈥檙 ymatebion yma yn yr adrannau priodol. Roedd y mwyafrif o ymatebion a gafwyd gan rieni am amgylchiadau achosion unigol, ac felly tu hwnt i ystod yr ymghynghoriad.
12. Mae鈥檙 cyhoeddiad yma yn crynhoi鈥檙 prif bwyntiau a wnaed gan yr ymatebwyr ac yn rhoi ymateb llawn y Llywodraeth iddynt. Mae hefyd yn gosod allan sut y byddwn yn mynd 芒鈥檙 cynigion yma ymlaen er mwyn cyflawni amcanion ein Strategaeth Cydymffurfiaeth ac 脭l-ddyledion Cynhaliaeth Plant newydd.
13. Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr o blaid y newidiadau. Roedd rhai ymatebwyr wedi codi pryderon na ddylai archwilwyr fod yn gwneud cais am warantau barnwrol. Rydym yn credu y bydd yn ychwanegu diogelwch angenrheidiol i鈥檙 p诺er mynediad presennol, gan ddiogelu pobl rhag y posibilrwydd o archwiliad diangen. Bydd y mesurau diogelwch ychwanegol hefyd yn sicrhau bod yr Adran yn cydymffurfio鈥檔 llawn gyda鈥檙 Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012.
14. Roedd un ymatebydd hefyd yn pryderu y byddai鈥檙 broses o wneud cais am warant farnwrol yn 鈥測marferiad rhoi s锚l bendith鈥�. Rydym wedi rhoi nifer o fesurau ar waith i sicrhau bod y broses yn gytbwys ac yn deg. Bydd yr holl geisiadau am warantau barnwrol yn cael eu hystyried naill ai yn y Llys Ynadon (yng Nghymru a Lloegr), neu yn Llys Siryf (yn yr Alban).
15. Roedd rhai ymatebwyr hefyd yn awyddus am y gallu i apelio yn erbyn gwarant farnwrol. Bydd yr hawliau apelio presennol mewn cyswllt 芒 phenderfyniadau a wnaed gan lys ynadon neu siryf neu siryf crynodeb yn parhau yn gymwys mewn perthynas 芒 phenderfyniad i gyflwyno gwarant neu beidio (gweler, er enghraifft, adran 111A o Ddeddf Llys yr Ynadon 1980). Nid ydym yn bwriadu creu unrhyw hawliau apelio penodol ychwanegol mewn cysylltiad 芒鈥檙 pwerau newydd i gyflwyno gwarantau.
16. Yn olaf, nid oedd rhai ymatebwyr yn cytuno gyda鈥檔 cynnig i gynnwys benthycwyr morgais a darparwyr pensiwn galwedigaethol yn y rhestr o sefydliadau y mae鈥檔 ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth i ni, gan eu bod yn meddwl fod y wybodaeth a roddir gan CThEM (HMRC) yn ddigonol yn barod. Rydym fodd bynnag angen gwybodaeth gan y sefydliadau hyn mewn amgylchiadau penodol, er enghraifft, i adnabod amrywiad i鈥檙 cyfrifiad o incwm. Rydym yn teimlo fod hyn yn newid angenrheidiol a fydd er lles y sefydliadau dan sylw drwy wneud y broses yn symlach o lawer iddynt, a lleihau鈥檙 angen i鈥檔 harchwilwyr eu hymweld.
Ymatebion
Newidiadau pwerau mynediad
Fe ofynnom ni
17. Ydych yn cytuno bod digon o rybuddion o fewn y broses arfaethedig i hysbysu鈥檙 meddiannydd y gwneir cais am warrant barnwrol os gwrthodir mynediad i鈥檙 adeilad heb reswm da? Os nad ydych, rhowch eich rhesymau.
Fe ddywedoch chi
18. Roedd rhywfaint o gytundeb bod yna ddigon o rybuddion o fewn y broses arfaethedig tra dywedodd eraill na ddylai fod angen gwarant o gwbl gan eu bod yn teimlo na ddylai fod unrhyw reswm dros gael mynediad i adeilad.
Beth ydym yn ei wneud
19. Ble mae鈥檙 Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) angen gwybodaeth at ddiben cyfrifo cynhaliaeth plant, efallai y bydd angen i archwiliwr ymweld ag adeilad i geisio cael y wybodaeth yma.
20. Yr adeiladau y gellir eu harchwilio yw鈥檙 rhai nad ydynt yn cael eu defnyddio鈥檔 gyfan gwbl fel t欧 annedd ac mae gan yr archwiliwr seiliau rhesymol dros amau yw:
- adeilad ble mae鈥檙 rhiant dibreswyl yn cael neu wedi cael ei gyflogi ynddo
- adeilad ble mae鈥檙 rhiant dibreswyl yn cyflawni neu wedi cyflawni masnach, proffesiwn, galwedigaeth neu fusnes
- adeilad ble mae gwybodaeth yn cael ei gadw gan berson (鈥淎鈥�) y mae gan yr archwiliwr seiliau rhesymol dros amau bod ganddynt wybodaeth am riant dibreswyl sydd wedi ei gael yn sgil masnach, proffesiwn, galwedigaeth neu fusnes (鈥淎鈥�) ei hun
21. Ble mae archwiliwr yn bwriadu cynnal ymweliad, byddant yn:
- anfon llythyr o fwriad i ymweld 芒鈥檙 adeilad. Bydd y llythyr yn cynnwys rhybudd y gellir gwneud cais am warrant farnwrol os gwrthodir mynediad i鈥檙 adeilad. Bydd hefyd yn rhybuddio y gellir ystyried erlyniad
- bydd y llythyr yn nodi amser ar gyfer ymweliad yr archwiliwr a ystyrir i fod yn gyfleus o fewn oriau busnes yr adeilad penodol yna
22. Mewn achosion eithriadol yn unig fydd cais am warrant farnwrol yn cael ei wneud ble naill ai gwrthodir mynediad i鈥檔 harchwilwyr neu fod ganddynt reswm i amau y byddai mynediad iddynt i鈥檙 adeilad yn cael ei wrthod. Yn yr achos yma, bydd yr archwiliwr yn cynghori鈥檙 meddiannydd o鈥檜 dyletswydd i ddarparu鈥檙 wybodaeth ofynnol. Byddant hefyd yn eu cynghori y gallai gwrthod mynediad parhaus arwain at gais i鈥檙 llys am warant farnwrol.
Fe ofynnom ni
23. Ydych yn cytuno y gall archwilwyr ofyn am warant os yw mynediad i鈥檙 adeilad yn wreiddiol yn cael ei wrthod, neu os yw鈥檙 archwiliwr yn ystyried y bydd yn debygol o gael ei wrthod? Os na, rhowch eich rhesymau.
Fe ddywedoch chi
24. Roedd yr ymatebion a gawsom yn datgan yn bennaf nad oedd unrhyw reswm i archwilwyr gael mynediad i adeilad neu eu bod yn pryderu y byddai gwarant farnwrol yn arwain at fynediad dan orfod i鈥檙 adeilad.
25. Codwyd pryder y byddai鈥檙 cynnig gwarant farnwrol yn ymarferiad 鈥渞hoi s锚l bendith鈥�, gan ei gwneud yn rhy hawdd i fynd i mewn i adeilad.
Beth ydym yn ei wneud
26. Ein bwriad wrth ymestyn y rhestr o sefydliadau yn y Rheoliadau Gwybodaeth yw symleiddio鈥檙 broses ar gyfer casglu gwybodaeth a thystiolaeth, drwy leihau鈥檙 angen i ymweld ag adeiladau ble cedwir gwybodaeth.
27. Lle mae鈥檔 angenrheidiol i archwiliwr ymweld ag adeilad i gael gwybodaeth, mae鈥檙 warant farnwrol yn darparu diogelwch ychwanegol i鈥檙 cyhoedd. O dan y broses bresennol, lle gwrthodir mynediad i鈥檙 adeilad i鈥檙 archwiliwr, mae gennym seiliau i erlyn y meddiannydd yn syth ar 么l iddynt wrthod.
28. Mae ychwanegu gwarant farnwrol i鈥檙 broses mynediad yn caniat谩u meddiannwyr i wneud cynrychiolaethau yn y gwrandawiad gwarant am pam na ddylai archwiliwr gael mynediad i鈥檞 hadeilad. Yna bydd y Llys yn gwneud penderfyniad annibynnol p鈥檜n ai yw mynediad yn briodol.
Sut y gwneir cais am warant farnwrol?
Adeiladau yng Nghymru a Lloegr
29. Rydym yn cynnig y dylai archwiliwr wneud cais am warant farnwrol i鈥檙 Llys Ynadon yng Nghymru a Lloegr.
30. Os bydd y cais am warant farnwrol yn cael ei roi, bydd meddiannydd yr adeilad yn cael cyfnod o o leiaf 21 diwrnod i wneud cynrychiolaethau. Os gwneir cynrychiolaethau bydd dyddiad yn cael ei drefnu ar gyfer gwrandawiad wyneb yn wyneb yn y Llys Ynadon. Os na fydd cynrychiolaethau yn cael ei wneud o fewn cyfnod o 21 diwrnod, bydd y gwrandawiad yn cael ei glywed gan Ynad dros y ff么n. Bydd yr Ynad yn ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael a gwneud penderfyniad p鈥檜n ai i roi鈥檙 warrant a鈥檌 peidio.
Adeiladau yn yr Alban
31. Yn yr Alban bydd cais am warant farnwrol yn cael ei wneud drwy gais crynodeb a bydd unai Siryf neu Siryf Crynodeb yn ei ystyried.
32. Os bydd y llys yn derbyn y cais, bydd gwarant gw欧s/bygyla yn cael ei llofnodi a fydd yn nodi dyddiad, amser a lleoliad ar gyfer gwrandawiad y cais. Bydd y meddiannydd yn cael cyfnod rhybudd o 21 diwrnod o鈥檙 gwrandawiad. Gall y meddiannydd fynychu鈥檙 gwrandawiad os ydynt yn dymuno neu gael eu cynrychioli鈥檔 gyfreithiol.
Beth fydd yn digwydd os rhoddir gwarant farnwrol
33. Os rhoddir y warant, bydd cyswllt pellach yn cael ei wneud gyda鈥檙 meddiannydd i gadarnhau:
- bod gwarant sy鈥檔 caniat谩u mynediad i鈥檞 hadeilad wedi cae ei wneud; a
- trefnu bod ymweliad yn cael ei wneud cyn gynted 芒 phosib.
34. Bydd y warant yn caniat谩u mynediad i un set o adeilad ar gyfer archwiliad yn unig. Bydd angen gwarantau ar wah芒n lle mae鈥檔 bosib fod y wybodaeth yn cael ei chadw mewn sawl eiddo.
Fe ofynnom ni
35. Ydych yn cytuno bod hyd oes o un mis, o鈥檙 diwrnod y rhoddir y warant farnwrol yn gyfnod rhesymol o amser? Os ddim, rhowch eich rhesymau.
Fe ddywedoch chi
36. Roedd rhywfaint o gytundeb bod hyd oes o un mis yn rhesymol. Roedd eraill yn teimlo mai pum diwrnod ddylai fod y cyfnod uchaf.
Beth ydym yn ei wneud
37. Ein bwriad yw darparu hyd oes o un mis ar gyfer y warant farnwrol gan y bydd yn caniat谩u amser digonol i gysylltu gyda meddiannydd yr adeilad i drefnu ymweliad ar adeg sy鈥檔 gyfleus iddynt.
38. Rydym hefyd yn cynnig y gall yr archwiliwr wneud cais am warant farnwrol bellach os nad ydynt yn gallu defnyddio鈥檙 warant yn y cyfnod amser o un mis.
Fe ofynnom ni
39. Ydych yn cytuno nad oes angen hawliau apelio?
Fe ddywedoch chi
40. Roedd yr ymatebwyr o blaid cael hawliau apelio ac roedd rhai ymatebwyr yn teimlo y dylai鈥檙 hawliau yma fod ar gael bob amser waeth beth yw鈥檙 sefyllfa.
Beth ydym yn ei wneud
41. Rydym wedi ystyried hyn yn ofalus iawn ac wedi bod mewn trafodaethau gyda鈥檙 Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM a鈥檙 Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban i ystyried ychwanegu hawliau apelio newydd.
42. Mae yna hawliau apelio cyffredinol sy鈥檔 codi mewn perthynas 芒 phenderfyniadau a wneir gan llys ynadon neu lys Siryf. Gweler, er enghraifft, adran 111A o Ddeddf Llys yr Ynadon 1980 ac adran 110 o Ddeddf Diwygio鈥檙 Llysoedd (Yr Alban) 2014. Bydd yr hawliau apelio yma yr un mor berthnasol i benderfyniad i gyflwyno gwarant neu beidio dan y darpariaethau newydd. Yn ein barn ni, mae鈥檙 hawliau apelio presennol yma yn ddigonol.
43. Felly, rydym yn bwriadu mynd ymlaen heb ychwanegu unrhyw hawliau apelio pellach yn yr achosion yma. Newidiadau gwybodaeth
Fe ofynnom ni
44. Oes gennych unrhyw sylwadau mewn perthynas 芒 chynnwys benthycwyr morgais a darparwyr pensiwn i鈥檙 rhestr o bersonau a sefydliadau sydd gan ddyletswydd i roi gwybodaeth i鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol?
Fe ddywedoch chi
45. Gofynnodd rhai ymatebwyr pam y byddem yn gofyn i fenthycwyr morgais a darparwyr pensiwn am wybodaeth, gan nodi na ddylem ymofyn gwybodaeth ariannol bellach y tu hwnt i wybodaeth a ddarparwyd gan CThEM (HMRC).
Beth ydym yn ei wneud
46. Rydym yn bwriadu mynd ymlaen i ychwanegu benthycwyr morgais a darparwyr pensiwn galwedigaethol i鈥檙 rhestr o鈥檙 rhai y mae鈥檙 Adran yn gofyn iddynt ddarparu gwybodaeth sy鈥檔 berthnasol ar gyfer cyfrifo cynhaliaeth plant. Drwy gynnwys benthycwyr morgais a darparwyr pensiwn galwedigaethol, mae鈥檔 gwneud y broses iddynt gyflenwi鈥檙 wybodaeth y gofynnwyd amdani i鈥檙 Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) yn llawer mwy syml. Yn flaenorol, byddai rhaid i archwiliwr fod wedi ymweld 芒鈥檜 hadeilad. Byddant nawr yn gallu ymateb i geisiadau am wybodaeth drwy ddulliau diogel electronig. Mae hyn yn llawer mwy cyfleus ac yn llai ymwthiol i鈥檙 sefydliadau hyn.
47. Enghraifft o pryd y gallwn ofyn am wybodaeth gan y sefydliadau hyn yw er mwyn:
- canfod os yw rhiant sydd ag 么l-ddyledion cynhaliaeth plant yn berchen ar unrhyw eiddo. Os byddwn yn sefydlu eu bod yn berchen eiddo, efallai y byddwn yn ystyried rhoi gorchymyn codi t芒l ar yr eiddo
- canfod os oes gan riant bensiwn galwedigaethol efallai y gallwn wneud gorchymyn didynnu o enillion ohono i helpu i gasglu 么l-ddyledion cynhaliaeth plant sydd heb eu talu
Camau nesaf
48. Rydym yn bwriadu gwneud newidiadau i鈥檙 Rheoliadau Gwybodaeth 2008 a鈥檙 Ddeddf Cynnal Plant 1991 (yr olaf drwy bwerau yn y Ddeddf Diogelu Rhyddid 2012 sy鈥檔 caniat芒u ar gyfer diwygiad o ddeddfwriaeth sylfaenol).
49. Y bwriad yw y bydd Gogledd Iwerddon yn mynd a diwygiadau cyfatebol ymlaen i鈥檙 Rheoliadau Gwybodaeth. Ni fydd y newidiadau i鈥檙 pwerau mynediad fodd bynnag yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon gan fod y darpariaethau Deddf Diogelu Rhyddid 2012 ond yn ymestyn i Ogledd Iwerddon cyn belled eu bod yn berthnasol i faterion eithriedig neu faterion ar gadw. Gan fod cynhaliaeth plant yn fater datganoledig, ni ellir defnyddio鈥檙 pwerau yn y Ddeddf yma i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth cynhaliaeth plant ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Atodiad A 鈥� Sefydliadau a ymatebodd i鈥檙 ymgynghoriad
Parenting Northern Ireland
Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban