Summary of responses (Welsh version)
Updated 8 November 2021
Rhagair
Rhagymadrodd
Cynhaliodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ymgynghoriad ar y cyd rhwng 19/07/2021 a 16/08/2021 i gasglu barn y diwydiant ar ddiwygiadau arfaethedig i Reoliad (EC) 589/2008 a ddargedwir.
Mae鈥檙 adroddiad hwn yn grynodeb o ganlyniadau鈥檙 arolwg ymgynghori a鈥檙 prif them芒u a nodwyd yn yr adborth ysgrifenedig.
Cafwyd cyfanswm o chwe ymateb i鈥檙 ymgynghoriad gan fusnesau a chyrff masnach sy鈥檔 cynrychioli鈥檙 sector wyau. Ar draws y chwe ymatebydd, cynrychiolwyd sefydliadau yng Nghymru, Lloegr a鈥檙 Alban yn yr ymatebion.
Dyma鈥檙 sefydliadau a ymatebodd i鈥檙 ymgynghoriad hwn:
- Cyngor Diwydiant Wyau Prydain
- Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru a Lloegr
- NFU Cymru
- NFU yr Alban
- Cymdeithas Cynhyrchwyr Wyau Maes Prydain
- Avonfinch Ltd
Yr ymatebion i鈥檙 ymgynghoriad
Ein cwestiwn ni: Ydych chi鈥檔 deall y newid arfaethedig yn y ddeddfwriaeth?
Roedd pob un o鈥檙 chwe ymatebydd yn deall y newid arfaethedig yn y ddeddfwriaeth.
Ein cwestiwn ni: Oes gennych chi sylwadau ar y newid arfaethedig yn y ddeddfwriaeth?
Awgrymodd y rhan fwyaf o鈥檙 ymatebwyr nad ydyn nhw鈥檔 cytuno 芒鈥檙 cynnig a鈥檌 bod yn well ganddyn nhw weld gwiriadau鈥檔 cael eu cynnal ar y ffin. Roedd un ymatebydd yn cytuno 芒鈥檙 cynnig.
Pwysleisiodd hanner yr ymatebwyr y dylai unrhyw newid yn y dyfodol gael ei ddyblygu gan yr UE er budd cynhyrchwyr wyau/allforwyr wyau Prydain.
Rhoddodd un ymatebydd fwy o fanylion am y rhwystrau SPS y mae allforwyr wyau Prydain wedi鈥檜 profi hyd yma. Yn eu barn nhw, byddai鈥檙 holl wiriadau sy鈥檔 digwydd ar y ffin yn sicrhau chwarae teg ac yn 鈥榙od 芒鈥檙 UE i鈥檙 bwrdd鈥� yn y broses.
Nododd cwpl o鈥檙 ymatebwyr a oedd yn anghytuno 芒鈥檙 cynnig fod rhaid i wyau sy鈥檔 cael eu mewnforio ddod o dan yr un safon o wiriadau ag wyau domestig a chael eu cynhyrchu i鈥檙 un safonau iechyd, lles a diogelwch bwyd uchel.
Mynegodd dau o鈥檙 ymatebwyr a oedd yn anghytuno 芒鈥檙 cynnig y farn bod rhaid cynnal gwiriadau cadarn wrth y tollau er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg bod cynhyrchion sy鈥檔 methu鈥檙 gwiriadau hyn yn dod i mewn i farchnad Prydain Fawr.
Ein cwestiwn ni: Oes unrhyw welliannau pellach yr hoffech eu gweld yn cael eu hystyried wrth i鈥檙 Rheoliad Safonau Marchnata Wyau gael ei adolygu yn y dyfodol?
Mynegwyd amrywiaeth cymysg o safbwyntiau gan yr ymatebwyr ar ystyriaethau ar gyfer diwygiadau i鈥檙 ddeddfwriaeth safonau marchnata wyau yn y dyfodol. Er enghraifft, roedd y meysydd sy鈥檔 peri pryder yn amrywio o ddosbarthiadau maint wyau, labelu (gwlad wreiddiol a chyfeiriadau cynhyrchu) a phwynt cyffredinol ar symud tuag at wyau heb gawell ar lefel manwerthu sy鈥檔 gofyn am ymagwedd bolisi ofalus.
Ein cwestiwn ni: Fyddai gennych chi ddiddordeb dod i gyfarfod bwrdd crwn i drafod y newid arfaethedig yn y ddeddfwriaeth ymhellach?
Roedd gan bob ymatebydd ond un ddiddordeb mewn dod i fwrdd crwn i drafod y newid arfaethedig yn y ddeddfwriaeth ymhellach.
Y camau nesaf
Mewn ymateb i鈥檙 ymgynghoriad, cynhaliodd Defra, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban drafodaeth bwrdd crwn ar 24 Medi 2021 i liniaru pryderon a godwyd gan y diwydiant. Bydd canlyniad llawn y bwrdd crwn yn cael ei anfon at bawb a fu鈥檔 cymryd rhan maes o law.
Bellach rydym yn nodi camau nesaf y Llywodraeth i wneud diwygiadau i reoliadau Marchnata Wyau ym Mhrydain Fawr. Mae Defra, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi cytuno i gysoni鈥檙 gwelliannau arfaethedig ledled Prydain ar lefel swyddogol. Bydd y gwelliant yn fodd i鈥檙 tair gweinyddiaeth ddatganoledig gadarnhau parhad y drefn orfodi bresennol ar gyfer mewnforion o dan reoliadau safonau marchnata wyau. Bydd y gwelliant hefyd yn sicrhau dull gweithredu cyson ar draws Prydain Fawr sy鈥檔 creu鈥檙 baich lleiaf posibl i鈥檙 diwydiant. Ni fydd y Rheoliadau Safon Marchnata Wyau yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu diwygio gan eu bod ar hyn o bryd yn cyd-fynd 芒鈥檙 UE, yn unol 芒鈥檙 gofynion o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.
Ein huchelgais yw cyflawni鈥檙 gwelliant deddfwriaethol hwn yn Lloegr a鈥檙 Alban erbyn diwedd 2021 ac erbyn diwedd Mawrth 2022 yng Nghymru. Bydd y dull gorfodi wedi鈥檌 ddiweddaru ar gyfer wyau Dosbarth A sy鈥檔 cael eu mewnforio yn mynd yn fyw ledled Prydain Fawr yn gynnar yn 2022. Byddwn yn parhau i ymgysylltu鈥檔 agos 芒鈥檙 diwydiant ar y newidiadau yn y rheoliadau safonau marchnata wyau. Bydd canllaw wedi鈥檌 ddiweddaru ynghylch rhoi鈥檙 gwiriadau safonol marchnata ar wyau Dosbarth A sy鈥檔 cael eu mewnforio ar waith yn cael ei ddrafftio a鈥檌 anfon i鈥檙 diwydiant cyn i鈥檙 newidiadau yn y ddeddfwriaeth ddod i rym.