Consultation outcome

Rhagair y Gweinidogion: cynnig i ychwanegu asid ffolig at flawd

Updated 21 September 2021

This was published under the 2016 to 2019 May Conservative government
Logos for the Department of Health and Social Care (England), the Welsh Government, the Scottish Government and the Department of Health (Northern Ireland)

Bob blwyddyn yn y DU, mae tua 1,000 o achosion o feichiogrwydd yn cael eu heffeithio gan namau ar y tiwb nerfol sy鈥檔 medru newid bywydau.

Mae鈥檙 namau geni hyn yn digwydd pan na fydd rhannau o fadruddyn y cefn yn datblygu鈥檔 iawn, gan effeithio ar yr ymennydd, asgwrn y cefn neu fadruddyn y cefn. Gall rhai o鈥檙 achosion fod yn angheuol, ac mae nifer yn arwain at gymhlethdodau iechyd i鈥檙 plentyn drwy gydol ei oes.

Ceir tystiolaeth gref y gellir osgoi llawer o namau ar y tiwb nerfol trwy gynyddu cymeriant asid ffolig menywod.

Mae tystiolaeth ddiweddar yn achosi pryder gan fod llai a llai o fenywod yn bodloni鈥檙 lefelau sy鈥檔 cael eu hargymell drwy eu deiet yn unig.

Y cyngor ar hyn o bryd i fenywod sy鈥檔 ceisio beichiogi, neu sy鈥檔 debygol o feichiogi, yw cymryd atchwanegiad dyddiol o asid ffolig. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod tua hanner yr achosion o feichiogrwydd yn y DU heb eu cynllunio.

Mae hyn wedi arwain at alwadau i gyfnerthu blawd ag asid ffolig. Gwelir cyfnerthu fel y ffordd fwyaf effeithiol o gyrraedd at y rhai 芒鈥檙 cymeriant isaf sef, yn gyffredinol, menywod iau o ardaloedd difreintiedig.

Fel gweinidogion ac Ysgrifennydd Parhaol sy鈥檔 gyfrifol am iechyd y cyhoedd yn ein 4 gwlad, rydym oll am gymryd camau i helpu i atal y risg di-angen hwn i iechyd y newyddanedig.

Rydym wedi dod ynghyd i gynnal yr ymgynghoriad hwn gyda鈥檔 gilydd, oherwydd bydd unrhyw gamau sy鈥檔 cael eu cymryd yn effeithio ar ddiwydiannau sy鈥檔 gweithredu ar draws y DU yn gyfan.

Gobeithio y bydd aelodau鈥檙 cyhoedd a sefydliadau trydydd sector yn ogystal 芒鈥檙 diwydiant a鈥檙 gymuned wyddonol yn ymateb.

Byddwn yn ystyried pob barn er mwyn sicrhau y bydd unrhyw gamau sy鈥檔 cael eu cymryd yn sicrhau鈥檙 manteision mwyaf posibl i iechyd ac yn osgoi unrhyw effaith negyddol.

Diolch ymlaen llaw am eich ymatebion.

Llofnodwyd gan

Seema Kennedy, Aelod o Senedd y DU, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Iechyd (Iechyd y Cyhoedd a Gofal Sylfaenol)

Vaughan Gething, Aelod o Gynulliad Cymru, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Joe FitzPatrick, Aelod o Senedd yr Alban, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Chwaraeon a Llesiant

Richard Pengelly, Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Iechyd, Gogledd Iwerddon