Hyb trafnidiaeth newydd ym Mhorth yn cael 拢3.5 miliwn o gyllid
Mae鈥檙 Gronfa Ffyniant Bro wedi dyfarnu 拢3.5 miliwn i gefnogi hyb trafnidiaeth newydd ym Mhorth, Rhondda Cynon Taf. Bydd yr hyb newydd yn gyfnewidfa bysiau a threnau integredig, wedi鈥檌 lleoli yn yr orsaf drenau.
Manteision yr hyb trafnidiaeth newydd i Borth
Bydd yn gwella:
- cysylltiadau rhwng gwasanaethau bws a thr锚n
- profiad teithwyr
- amserau teithio

Mae鈥檙 hyb newydd wedi鈥檌 ddylunio i ddarparu teithio di-dor rhwng bysiau a threnau.
Bydd nodweddion yn cynnwys:
- uwchraddio鈥檙 rhwydwaith teithio llesol lleol
- mannau gwefru cerbydau trydan
- storfeydd beiciau
- safle tacsis
Llinell amser yr hyb trafnidiaeth
Dechreuwyd gwaith adeiladu ar yr hyb yn y gwanwyn 2022 a disgwylir iddo bara tua blwyddyn. Bydd yn agor cyn i drenau cyflym ddechrau rhedeg yn gyson. O 2024 ymlaen, bydd y trenau hyn yn rhedeg pedair gwaith yr awr ym Morth trwy Fetro De Cymru.
Rhagor o adfywio ym Mhorth
Bydd y gyfnewidfa newydd yn gweithredu fel angor ar gyfer rhagor o adfywio yn y dref.
Bydd yn denu buddsoddiad a datblygiad i ganol y dref.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Norris, Cyngor Rhondda Cynon Taf:
Bydd yr hyb trafnidiaeth yn gwneud gwahaniaeth enfawr ac yn gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn sylweddol ym Mhorth, sydd wedi鈥檌 lleoli鈥檔 strategol fel porth i Rondda Fach a Fawr. Mae gan y cyngor gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer adfywio canol y dref yn ehangach, y mae鈥檙 cynllun hwn yn ganolbwynt iddynt, ac rydym wedi llwyddo i sicrhau 拢3.5m o gyllid o鈥檙 Gronfa Ffyniant Bro i gyfrannu at hyn.

Dysgwch fwy am .