Astudiaeth achos

Dyfarnu 拢20 miliwn i hwb hamdden newydd yng Nghaerffili

Dyrannwyd 拢20 miliwn o鈥檙 Gronfa Ffyniant Bro i Gyngor Sir Caerffili. Mae Caerffili yn bwriadu defnyddio鈥檙 cyllid i adeiladu canolfan hamdden a lles newydd.

Cyfleusterau hamdden newydd sbon

Bydd y cyfleuster newydd o鈥檙 radd flaenaf yn cael ei ddatblygu ger Parc Busnes Caerffili. Bydd yn disodli Canolfan Hamdden bresennol Caerffili, sydd wedi dyddio, yng nghanol y dref.

Bydd yn cynnwys:

  • neuadd chwaraeon amlbwrpas
  • pwll nofio chwe l么n
  • sba lles a chyfleusterau lles
  • lle chwarae meddal antur i blant
  • ystafell ffitrwydd

Dywedodd Cyngor Caerffili:

Ein nod yw creu ased cymunedol hanfodol sy鈥檔 gatalydd ar gyfer gwella鈥檙 cyfleoedd iechyd a bywyd i bawb ac sy鈥檔 gwella gwydnwch ein cymunedau. Bydd yr hwb yn cryfhau ymgyrch barhaus y Cyngor i leihau anghydraddoldeb cymdeithasol, iechyd ac ariannol ledled y fwrdeistref sirol.

Budd i鈥檙 gymuned ehangach

Nod y prosiect yw rhoi cyfleoedd hamdden gwell i drigolion Caerffili. Bydd yn darparu:

  • mynediad hygyrch i gyfleusterau iechyd a lles
  • mannau cymunedol amlbwrpas fforddiadwy

Mae鈥檙 hwb yn cynrychioli cyfle datblygu sylweddol i greu swyddi, hyrwyddo twristiaeth a masnach newydd, a gwasanaethu cenedlaethau presennol a鈥檙 dyfodol yn y dref a鈥檙 fwrdeistref sirol. Bydd yr hwb yn cynnig cysylltiadau cryf 芒 choridor teithio llesol y dref i hyrwyddo hygyrchedd a chynhwysiant, gan fod mewn sefyllfa dda i ddenu trigolion o bob rhan o鈥檙 fwrdeistref sirol ac ymwelwyr o鈥檙 tu allan i鈥檙 ardal.

Mae鈥檙 prosiect yn rhan o raglen adfywio ehangach canol tref Caerffili o dan

Darganfyddwch fwy am

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Tachwedd 2023