Sut y gwnaethom wneud cyfiawnder yn y gweithle yn symlach, yn gyflymach ac yn fwy hygyrch i bawb
Mae Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn chwarae rhan hanfodol yn system gyfiawnder y DU, gan ddatrys anghydfodau rhwng cyflogwyr a gweithwyr.

Gall yr anghydfodau hyn fod ar faterion fel:
- diswyddo annheg
- gwahaniaethu
- colli swydd
- hawliadau chwythu鈥檙 chwiban
- torri amodau contract
Yn ystod y gwrandawiadau fel wrandewir ar dystiolaeth, tystiolaeth tystion a dadleuon cyfreithiol a gwneir penderfyniad ar yr achos gan farnwr yn eistedd ar ei ben ei hun, neu gan banel sy鈥檔 cynnwys:
- barnwr
- aelod o鈥檙 panel gyda chefndir gweithiwr
- aelod o鈥檙 panel gyda chefndir cyflogwr
Cyn y Rhaglen Ddiwygio, roedd nifer o broblemau gyda鈥檙 broses:
- Roedd yn rhaid i aelodau鈥檙 panel a thimau GLlTEF drin, cludo a storio nifer fawr o ddogfennau papur 芒 llaw
- Roedd effeithiau amgylcheddol i gludo鈥檙 papur hwn ac roedd yn achosi tagfeydd ac oedi i achosion
- Nid oedd ffurflenni yn hawdd i鈥檞 defnyddio nac yn gefnogol, gan gynyddu鈥檙 risg o gamgymeriadau dynol
- Yn aml roedd angen i hawlwyr a diffynyddion deithio i adeiladau ar gyfer gwrandawiadau
- Roedd barnwyr yn treulio amser yn gwneud penderfyniadau lefel is, gan eu tynnu oddi wrth faterion cymhleth oedd eu hangen
Nod ein rhaglen foderneiddio oedd trawsnewid system bapur hen ffasiwn a oedd yn ei chael yn anodd bodloni disgwyliadau modern i fod yn wasanaeth effeithlon, hawdd ei ddefnyddio a oedd yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif.
Buddion
Ers mis Gorffennaf 2022, mae mwy na 17,500 o bobl wedi gwneud hawliadau digidol gan ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth modern. Cafodd y bobl hyn y buddion canlynol:
- taith ddigidol o鈥檙 dechrau i鈥檙 diwedd ar gyfer cyflwyno a rheoli hawliadau
- ffurflenni ar-lein cefnogol, hawdd i鈥檞 defnyddio a gweithdrefnau symlach gyda llai o jargon cyfreithiol, gan leihau鈥檙 cyfleoedd am gamgymeriadau
- hyblygrwydd olrhain achosion amser real a mynediad at ffeiliau achos 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos
- Cynnydd mewn gwrandawiadau o bell sydd wedi lleihau鈥檙 angen i dreulio amser yn teithio, yn ogystal 芒 manteision amgylcheddol ychwanegol
- datblygiad cyflymach o鈥檜 hachos gyda phrosesau gweinyddol symlach
Roedd newidiadau i reoliadau hefyd yn golygu y gellid penodi swyddogion cyfreithiol i gefnogi barnwyr gyda rhai swyddogaethau y gallent eu gwneud yn fwy effeithiol wedyn trwy well technoleg. Sicrhaodd y cam hwn ddefnydd mwy effeithlon o amser barnwyr ar gyfer materion mwy cymhleth.
Ein trawsnewidiad digidol
Dechreuodd y daith i ddiwygio鈥檙 Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn 2021. Dangosodd ymgynghoriad cyhoeddus gefnogaeth gadarn i foderneiddio a dechreuwyd ar y broses drwy ddatblygu a phrofi鈥檙 ffurflen hawlio digidol newydd (ET1).
Dyma fyddai sylfaen y gwasanaethau wedi鈥檜 moderneiddio, gan roi ffurflen hygyrch, hawdd i鈥檞 defnyddio i hawlwyr (neu eu cynrychiolwyr) y gallent ei chyrchu drwy 188体育 a鈥檌 llenwi a鈥檌 chyflwyno ar-lein unrhyw bryd.
Yna rhoesom fynediad i ddefnyddwyr i ddau blatfform digidol allweddol:
- MyHMCTS - Porth arbenigol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith i reoli a rhyngweithio 芒 deunyddiau achos ar ran eu cleient
- CitizenUI - Rhyngwyneb hygyrch i aelodau鈥檙 cyhoedd gael mynediad uniongyrchol iddo
Cwblhawyd y cyflwyniad cenedlaethol ym mis Gorffennaf 2024, gan drawsnewid holl swyddfeydd y Tribiwnlys Cyflogaeth. Drwy gydol y broses gyflwyno, rydym wedi gwneud yn si诺r bod ein staff wedi teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a鈥檜 bod yn glir ynghylch y r么l y maent yn ei chwarae o ran cael effaith gadarnhaol ar broses y tribiwnlysoedd.
Mae鈥檙 gwasanaeth ar-lein yn boblogaidd hefyd, gydag 80% o鈥檙 holl hawliadau unigol bellach yn cael eu gwneud yn ddigidol.
Cael cymorth
Er bod arloesi digidol yn bwysig, rydym wedi cynnal ein hymrwymiad i hygyrchedd:
- Mae opsiynau papur yn parhau i fod ar gael ar gyfer y rhai sydd eu hangen
- Datblygu cyfleusterau argraffu canolog
- Deunyddiau canllaw cynhwysfawr
- Cefnogaeth i鈥檙 rhai heb fynediad i gyfleusterau digidol neu hyder
Adborth a mewnwelediadau
Mae defnyddwyr ar draws y system wedi croesawu鈥檙 newidiadau:
鈥淢ynediad i鈥檙 dogfennau perthnasol heb aros i鈥檙 part茂on na鈥檙 staff eu darparu鈥� mae鈥檔 newid y g锚m.鈥� Barnwr y Tribiwnlys
鈥淢ae gan y system/porth botensial mawr a dylai fod yn adnodd defnyddiol ac effeithlon iawn i ddefnyddwyr a GLlTEF.鈥� Gweithiwr Proffesiynol ym Maes y Gyfraith
鈥淒oes dim rhaid i mi gario cymaint o bethau o gwmpas鈥� Gallaf gael yr hyn sydd ei angen arnaf fel arfer o鈥檙 ffeil electronig.鈥� Aelod o Staff y Tribiwnlys
Blwch galw allan 鈥� Cefnogi Sarah drwy ei hanghydfod yn y gweithle聽
鈥淩o鈥檔 i鈥檔 edrych ymlaen at ddechrau fy nghyfnod mamolaeth a threulio amser gyda fy nheulu ond ar 么l ychydig fisoedd, mi wnes i sylweddoli fod agwedd fy nghyflogwr tuag ata鈥� i wedi newid.
Cyn i mi ddweud wrthyn nhw fy mod i鈥檔 feichiog, ro鈥檔 i鈥檔 cael fy annog yn rheolaidd i wneud cais am ddyrchafiad a byddai fy rheolwr yn anfon manylion swyddi gwag a chyfleoedd hyfforddi ata鈥� i. Daeth y cyswllt hwn i ben tra o鈥檔 i ar absenoldeb mamolaeth a des i wybod yn ddiweddarach fod cydweithwyr wedi gwneud cais amdanyn nhw ac wedi cael dyrchafiad i rolau y byddwn i wedi bod yn berffaith ar eu cyfer, ond ni wnaethon nhw erioed ddweud wrtha鈥� i amdanyn nhw. Ces i fy nghau allan ac ro鈥檔 i鈥檔 teimlo bod fy nghyflogwr wedi gwahaniaethu yn fy erbyn i a wnaeth i mi deimlo鈥檔 anhapus iawn.
Roedd yn syniad brawychus, ond mi wnes i benderfynu gwneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth. Nid o鈥檔 i erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o鈥檙 blaen ac ro鈥檔 i鈥檔 nerfus iawn ond mae鈥檙 broses wedi bod yn wych hyd yn hyn. Oherwydd ei fod i gyd ar-lein, mi alla鈥� i fewngofnodi pryd bynnag dwi鈥檔 dymuno a gweld sut mae鈥檙 hawliad yn dod yn ei flaen. Mae hyn wedi bod yn bwysig iawn gan mai anaml y bydd gen i鈥檙 amser i wneud galwadau ff么n yn ystod y dydd, i fynd ar drywydd pobl. Ro鈥檔 i hefyd yn meddwl y byddai鈥檔 rhaid i mi deithio i wrandawiadau yn rheolaidd, ond nid yw hynny wedi bod yn wir.
Dwi wir yn mwynhau鈥檙 broses a dwi鈥檔 edrych ymlaen at weld yr hawliad yn cael ei setlo er mwyn i mi allu symud ymlaen gyda fy mywyd.鈥澛�
Cydweithio
Buom yn gweithio鈥檔 agos gyda:
- Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) 鈥� yr Adran Busnes a Masnach bellach 鈥� a鈥檙 Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) i ymgynghori ar gynlluniau i ddiwygio鈥檙 gwasanaeth
- Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) i sicrhau y byddai cyngor rhad ac am ddim ar gael i鈥檙 rhai sy鈥檔 defnyddio鈥檙 gwasanaeth digidol
- y farnwriaeth fel partner hanfodol ar bob lefel
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Rydym wedi ymrwymo i welliant parhaus drwy wneud y canlynol:
- datblygu cymorth Canolfan Gwasanaethau erbyn diwedd 2025
- gweithredu meddalwedd 鈥楲istAssist鈥� i wella鈥檙 broses o restru achosion
- datblygu鈥檙 gallu i ymdrin 芒 hawliadau lluosog
- cwella perfformiad y system a gwella sut i鈥檞 llywio ymhellach
- cyflwyno cyfleusterau argraffu a sganio swmp
- mireinio rhyngwynebau hawdd eu defnyddio yn seiliedig ar adborth gan ein timau
Cael yr wybodaeth ddiweddaraf
Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth drwy鈥檙 canlynol:
- Er mwyn cael y canllawiau diweddaraf ar wneud hawliad, ewch i Gwneud Hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth
- drwy danysgrifio i鈥檔 e-hysbysiadau a鈥檔 cylchlythyrau.