Trawsnewidiad gwerth 拢19 miliwn yng Ngwynedd
Bydd bron i 拢19 miliwn o鈥檙 Gronfa Ffyniant Bro yn trawsnewid cymunedau yn nhirwedd llechi Treftadaeth y Byd Gwynedd.
Bydd y cyllid yn adeiladu ar a ddyfarnwyd i鈥檙 ardal ac i gefnogi pecyn o brosiectau ar gyfer yr Amgueddfa Lechi a鈥檙 ardal gyfagos.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Aelod Cabinet dros yr Economi a Chymunedau:
Bydd gan lawer o deuluoedd lleol hynafiaid a weithiodd naill ai yn chwareli Eryri neu mewn diwydiannau cysylltiedig ac rydym yn falch y bydd eu hetifeddiaeth dosbarth gweithiol Cymraeg yn cael ei gwarchod, ei hyrwyddo a鈥檌 dathlu, diolch i Statws Treftadaeth y Byd UNESCO a鈥檔 bod yn gallu defnyddio鈥檙 dynodiad hwn fel sbardun i ddenu cyllid fel y Gronfa Ffyniant Bro.
Hwb Dinorwig 鈥� Amgueddfa Lechi Cymru
Bydd canolfan Safle Treftadaeth y Byd newydd yn cael ei chreu a fydd yn gwella鈥檙 profiad i ymwelwyr. Bydd Parc Padarn, sef y parc cyhoeddus o amgylch yn cael ei ailddatblygu, hefyd.
Bydd y ganolfan newydd yn cynnwys:
- mannau addysg ac arddangos gwell
- ailbwrpasu adeiladau hanesyddol yn y parc
Bydd llwybrau cyhoeddus a mynediad i鈥檙 anabl hefyd yn cael eu gwella rhwng yr hwb a鈥檙 chwarel.
Ffyniant Bro Gwynedd
Yn ogystal ag ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru a鈥檙 ardal gyfagos, mae cyllid Ffyniant Bro gwerth 拢18.8m ar gyfer Gwynedd hefyd yn cyfrannu at:
- datblygu canolfan dreftadaeth newydd ym Methesda
- gwneud gwelliannau i neuadd gyngerdd Bethesda, sef Neuadd Ogwen
- creu llwybr cerdded a beicio newydd sy鈥檔 cysylltu Bethesda 芒 Chwarel Penrhyn
- gwneud gwelliannau mawr i ganol tref Blaenau Ffestiniog
- adeiladu llwybr cerdded a beicio newydd yn cysylltu Blaenau Ffestiniog 芒 Chwarel Llechwedd
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley, sef Cadeirydd Gr诺p Llywio Partneriaeth Lechi Cymru:
Rydym eisiau dathlu a defnyddio ein gorffennol diwydiannol i greu cyfleoedd newydd cyffrous er budd cymunedau a busnesau presennol yng Ngwynedd.
Darganfyddwch fwy am