拢17 miliwn i ddenu ymwelwyr a chreu swyddi yn Sir Gaerfyrddin
Mae bron 拢17 miliwn o鈥檙 Gronfa Ffyniant Bro wedi cael ei ddyrannu i Gyngor Sir Caerfyrddin. Bydd y buddsoddiad yn cefnogi rhannau newydd o Lwybr Dyffryn Tywi ar gyfer cerdded a beicio, gan ychwanegu at y llwybr presennol.
Rhannau newydd o Lwybr Dyffryn Tywi
Bydd y cyllid yn ymestyn Llwybr Dyffryn Tywi, gan gynnwys llwybr cerdded a beicio 20km newydd oddi ar y ffordd sy鈥檔:
- cysylltu Caerfyrddin 芒 Llandeilo
- mynd ochr yn ochr ag afon Tywi
Bydd y llwybr newydd yn mynd trwy olygfeydd hardd. Mae鈥檙 dirwedd yn cynnwys cestyll, parciau gwledig, ystadau hanesyddol a:
Buddion i Ddyffryn Tywi
Disgwylir i鈥檙 buddsoddiad:
- gynhyrchu hyd at 拢4.5 miliwn y flwyddyn i鈥檙 economi leol o dwristiaeth
- denu ymwelwyr o bob rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig a thu hwnt i Ddyffryn Tywi
- creu swyddi newydd a hybu buddsoddiad preifat yn yr ardal
Dysgwch fwy am .