Hwb 拢11 miliwn i economi Cymru trwy uwchraddio鈥檙 A4119
Bydd dros 拢11 miliwn o鈥檙 Gronfa Ffyniant Bro yn cefnogi gwelliannau.
Mae rhan o鈥檙 A4119 yn ne Cymru yn dioddef oherwydd gormod o geir a thagfeydd. Bydd dros 拢11 miliwn o鈥檙 Gronfa Ffyniant Bro yn cefnogi gwelliannau a fydd o fudd i:
- gerddwyr
- modurwyr
- beicwyr

Uwchraddio鈥檙 A4119 i ehangu cysylltiadau rhanbarthol
Mae鈥檙 A4119 yn gyswllt allweddol i鈥檙 M4 a Chymoedd Rhondda. Bydd rhan o鈥檙 ffordd yn cael ei newid yn ffordd ddeuol rhwng:
- cylchfan Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru
- cylchfan Coed-el谩i
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, ac aelod y cabinet dros Seilwaith a Buddsoddiad:
Mae鈥檙 cynllun deuoli鈥檔 flaenoriaeth fuddsoddi i wella cysylltedd lleol 芒 rhanbarth strategol Porth Rhondda yn sylweddol, trwy wella llif traffig yn yr ardal gymudo brysur hon. Bydd yn datgloi safle鈥檙 hen bwll glo, Parc Coed-El谩i, lle mae uned fusnes fodern newydd y Cyngor wedi鈥檌 lleoli, a bydd y safle ehangach yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cynllun hefyd yn gwella鈥檙 ddarpariaeth teithio llesol i鈥檙 gymuned leol yng Nghoed-el谩i.

Gwelliannau i gefnogi teithio cynaliadwy
Bydd beicwyr a cherddwyr yn elwa hefyd.
Bydd:
- llwybr newydd ar hyd gorllewin y ffordd gerbydau, o Gylchfan Coed-el谩i i Barc Busnes Llantrisant
- pont newydd i鈥檙 de o gylchfan Coed-el谩i i annog cymudwyr i ddewis cerdded neu feicio
Disgwylir i鈥檙 gwaith helpu i greu miloedd o swyddi newydd trwy wella mynediad i:
- safleoedd datblygu allweddol
- Caerdydd
Dysgwch fwy am .