Elusennau a threth
Printable version
1. Trosolwg
Fel elusen, gallwch gael gostyngiadau treth penodol. Er mwyn elwa ar y rhain, mae’n rhaid i chi gael eich cydnabod gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Nid yw elusennau yn talu treth ar y rhan fwyaf o fathau o incwm cyhyd â’u bod yn defnyddio’r arian at ddibenion elusennol (yn Saesneg).
Gallwch hawlio treth yn ôl sydd wedi’i didynnu, er enghraifft ar log banc a rhoddion (yr enw ar hyn yw Rhodd Cymorth (yn Saesneg)).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Pryd y mae’n rhaid i chi dalu treth
Efallai y bydd yn rhaid i’ch elusen dalu treth os ydych wedi:
- cael incwm nad yw’n gymwys ar gyfer rhyddhad treth
- gwario unrhyw ran o’ch incwm at ddibenion nad ydynt yn elusennol
Mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth os oes gan eich elusen dreth i’w thalu.
Mae clybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChACau) yn cael gwahanol ostyngiadau treth (yn Saesneg).
2. Rhyddhad treth ar gyfer elusennau
Fel elusen, nid ydych yn talu treth ar y rhan fwyaf o’ch incwm a’ch enillion os ydych yn eu defnyddio at ddibenion elusennol (yn Saesneg) � yr enw ar hyn yw ‘gwariant elusennol�.
Mae hyn yn cynnwys treth:
- ar roddion
- ar elw o fasnachu (yn Saesneg)
- ar incwm rhent neu fuddsoddi, er enghraifft llog banc
- ar elw pan fyddwch yn gwerthu neu’n ‘gwaredu� (yn Saesneg) ased, megis eiddo neu gyfranddaliadau
- pan fyddwch yn prynu eiddo
I gael rhyddhad treth, mae’n rhaid i chi gael eich cydnabod gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Mae clybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChACau) yn cael gwahanol ostyngiadau treth (yn Saesneg).
Pan fyddwch yn talu treth
Mae elusennau’n talu treth ar y canlynol:
- difidendau a gafwyd gan gwmnïau yn y DU cyn 6 Ebrill 2016
- elw o ddatblygu tir neu eiddo
- pryniannau � ond mae yna reolau TAW arbennig ar gyfer elusennau (yn Saesneg)
Mae elusennau’n talu trethi busnes (yn Saesneg) ar adeiladau annomestig, ond maent yn cael gostyngiad o 80% (yn Saesneg).
Mae’n rhaid i chi dalu treth ar unrhyw arian nad ydych yn ei ddefnyddio at ddibenion elusennol. Yr enw ar hyn yw ‘gwariant nad yw’n elusennol�.
Talu treth
Mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth os oes angen i’ch elusen dalu treth neu os yw CThEF yn gofyn i chi wneud hynny.
Adennill treth
Gallwch hawlio treth yn ôl sydd wedi’i didynnu, er enghraifft:
- ar roddion (yr enw ar hyn yw Rhodd Cymorth (yn Saesneg))
- ar log banc
3. Cael cydnabyddiaeth at ddibenion treth
I gael rhyddhad treth, mae’n rhaid i’ch elusen fod:
- wedi’i lleoli yn y DU
- wedi’i sefydlu at ddibenion elusennol (yn Saesneg) yn unig
- wedi’i chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau (yn Saesneg) neu reoleiddiwr arall, os yw hyn yn berthnasol i chi
- wedi’i rhedeg gan ‘bersonau gweddus a phriodol� (yn Saesneg)
- wedi’i chydnabod gan Gyllid a Thollau EF (CThEF)
Ni all elusennau sydd wedi’u lleoli yn yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu Norwy wneud cais am ryddhad treth mwyach. Os cawsoch ryddhad treth ar 14 Mawrth 2023, neu cyn hynny, byddwch yn parhau i gael y rhyddhad hwn hyd nes mis Ebrill 2024.
Cofrestru manylion eich elusen er mwyn cael cydnabyddiaeth gan CThEF
Cofrestrwch fanylion eich elusen gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein CThEF.
4. Adennill treth
Os cewch incwm gyda threth wedi’i didynnu oddi wrtho, er enghraifft rhoddion y gallwch hawlio Rhodd Cymorth (yn Saesneg) arnynt, gallwch ei hawlio’n ôl:
- ar-lein, gan ddefnyddio’r gwasanaeth Elusennau Ar-lein (yn Saesneg)
- drwy feddalwedd sy’n gweithio gydag Elusennau Ar-lein (yn Saesneg)
- drwy’r post, gan ddefnyddio ffurflen ChR1 � ffoniwch ein llinell gymorth i’w harchebu
Llog banc
Gallwch drefnu cael llog heb i dreth gael ei didynnu oddi wrtho. Dangoswch eich llythyr o gydnabyddiaeth gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) i’ch banc.
Os yw treth eisoes wedi’i didynnu oddi wrth eich llog, gallwch ei hawlio’n ôl am y canlynol:
- y flwyddyn dreth bresennol drwy ofyn i’ch banc
- blynyddoedd treth blaenorol drwy ei hawlio gan CThEF
5. Talu treth
Os oes gan eich elusen incwm nad yw’n gymwys ar gyfer rhyddhad treth, mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth.
Os nad oes gennych dreth i’w thalu, llenwch Ffurflen Dreth dim ond os yw Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn gofyn i chi wneud hynny.
Os yw incwm eich elusen dros £10,000, mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen Dreth flynyddol i’r Comisiwn Elusennau (yn Saesneg).
Ffurflenni Treth y Cwmni
Llenwch Ffurflen Dreth y Cwmni (yn Saesneg) os yw’ch elusen yn gwmni cyfyngedig neu’n gymdeithas anghorfforedig (yn Saesneg). Sicrhewch eich bod yn cynnwys y tudalennau atodol ar gyfer elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChACau).
Mae elusen yn gwmni cyfyngedig os cafodd ei sefydlu drwy’r canlynol:
- cyfansoddiad
- memorandwm ac erthyglau cymdeithasu (yn Saesneg)
- siarter frenhinol neu Ddeddf Seneddol
Mae’n rhaid i gwmnïau cyfyngedig hefyd anfon cyfrifon blynyddol (yn Saesneg) i Dŷ’r Cwmnïau.
Ymddiriedolaethau
Llenwch Ffurflen Dreth Hunanasesiad Ymddiriedolaeth ac Ystâd os yw’ch elusen yn ymddiriedolaeth. Mae elusen yn ymddiriedolaeth os cafodd ei sefydlu drwy weithred ymddiriedolaeth neu ewyllys.
Cosbau a dyddiadau cau
Mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth pan fydd CThEF yn gofyn i chi wneud hynny, hyd yn oed os nad oes treth yn ddyledus.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os yw’ch Ffurflen Dreth yn hwyr neu os nad ydych yn llenwi un pan ddylech.
Mae’r dyddiad cau yn dibynnu a ydych yn llenwi Ffurflen Dreth y Cwmni (yn Saesneg) neu Ffurflen Dreth Hunanasesiad.