Eithrio allan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth
Sut mae eithrio allan yn effeithio eich swm
Mae sut mae eich swm Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei effeithio yn dibynnu ar bryd rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
Efallai na chewch unrhyw Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, neu gael swm bach, o鈥檙 adeg y roeddech wedi eithrio allan.
Rydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol o hyd os oeddech wedi eithrio allan.
Os ydych ar incwm isel, gallwch wneud cais am Gredyd Pensiwn.
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar 么l 6 Ebrill 2016
Os oeddech wedi eich eithrio allan cyn 6 Ebrill 2016, efallai na chewch y gyfradd lawn o Bensiwn newydd y Wladwriaeth o 拢230.25 yr wythnos.
Caiff swm ei dynnu i ffwrdd o鈥檆h Pensiwn newydd y Wladwriaeth os oeddech wedi eithrio allan. Mae hyn oherwydd naill ai:
- eich bod wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd is
- defnyddiwyd rhai o鈥檙 cyfraniadau Yswiriant Gwladol a dalwyd gennych i gyfrannu at bensiwn gweithle neu breifat
Mae faint o arian sy鈥檔 cael ei dynnu i ffwrdd yn dibynnu ar ba mor hir roeddech wedi eithrio allan a鈥檆h enillion ar y pryd. Tra roeddech wedi eithrio allan, roeddech yn talu i mewn i鈥檆h pensiwn gweithle neu bensiwn personol yn lle hynny.
Cynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth
Efallai y byddwch yn gallu cynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth drwy ychwanegu blynyddoedd cymhwyso ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.
Bydd pob blwyddyn gymhwyso lawn o 5 Ebrill 2016 hyd nes i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn ychwanegu tua 拢6.58 yr wythnos at eich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth. Gallwch ddarllen gwybodaeth fanylach am sut y cyfrifir hyn yn 鈥楨ich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth鈥�.
Enghreifftiau o sut y gallai eithrio allan effeithio arnoch chi
Bydd y swm o Bensiwn y Wladwriaeth a gewch yn amrywio yn dibynnu ar faint o flynyddoedd y cawsoch eich eithrio allan.
Enghraifft 1
Mae disgwyl i oedran Pensiwn y Wladwriaeth Sam fod yn 67. Cawsant eu heithrio allan sydd wedi lleihau eu hamcangyfrif Pensiwn y Wladwriaeth i 拢180 yr wythnos. Mae hyn yn llai na鈥檙 gyfradd lawn o Bensiwn y Wladwriaeth.
Mae Sam yn dal i weithio a thalu Yswiriant Gwladol sy鈥檔 ychwanegu mwy o flynyddoedd cymhwyso i鈥檞 cofnod. Mae pob blwyddyn gymhwyso y maent yn ei hychwanegu鈥檔 werth 拢6.58 yr wythnos. Mae hyn yn golygu y bydd y didyniad o 拢30 yn cael ei ganslo drwy ychwanegu 5 blynedd gymhwyso arall cyn iddynt gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Enghraifft 2
Mae Jo yn 60 oed ac maent newydd roi鈥檙 gorau i weithio. Cawsant eu heithrio allan a oedd yn lleihau eu Pensiwn y Wladwriaeth a ragwelir i 拢150 yr wythnos. Byddant yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn 67 oed.
Gallai Jo ddewis talu 7 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol, i gael blynyddoedd cymhwyso pan nad ydynt yn gweithio. Bydd pob blwyddyn gymhwyso ychwanegol yn cynyddu eu swm o 拢6.58 yr wythnos, ond ni fydd Jo yn cyrraedd cyfradd lawn Pensiwn Newydd y Wladwriaeth.