Dod â phartneriaeth sifil i ben

Printable version

1. Gwirio a allwch ddod â’ch partneriaeth sifil i ben

Gallwch wneud cais i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben (‘diddymu�) os ydych wedi bod yn y bartneriaeth am fwy na blwyddyn. Mae’n rhaid i chi wneud cais i lys i wneud hyn.

Os nad ydych eisiau dod â’r bartneriaeth sifil i ben, gallwch gael ymwahaniad cyfreithiol. Gallwch wneud cais am ymwahaniad yn ystod blwyddyn gyntaf eich partneriaeth sifil.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae proses wahanol ar gyfer neu .

Trefniadau ar gyfer plant, arian ac eiddo

Efallai y byddwch chi a’ch partner angen penderfynu ar:

Mae arnoch angen rhannu eich arian a’ch eiddo hefyd.

Fel arfer, gallwch osgoi mynd i wrandawiadau llys os ydych yn cytuno ar drefniadau ynghylch eich plant, arian ac eiddo ac yn cytuno ar y rhesymau dros ddod â’ch partneriaeth sifil i ben.

Cael cymorth neu gyngor

Gallwch gael cyngor ynghylch gwaith papur cyfreithiol a gwneud trefniadau gan:

Chwiliwch am gynghorydd cyfreithiol os ydych angen cyngor cyfreithiol.

2. Cyn ichi wneud cais

Rhaid i chi benderfynu p’un a ydych eisiau gwneud cais ar y cyd gyda’ch partner ynteu gwneud cais ar eich pen eich hun.

Fel arfer mae’n cymryd o leiaf 6 mis i ddod â phartneriaeth sifil i ben. Mae hyn yr un peth ar gyfer ceisiadau ar y cyd a cheisiadau unigol.

Gwneud cais ar y cyd gyda’ch partner

Gallwch wneud cais ar y cyd os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • mae’r ddau ohonoch yn cytuno y dylech ddod â’ch partneriaeth sifil i ben
  • nid ydych mewn perygl o gam-drin domestig

Bydd arnoch angen penderfynu os ydych eisiau gwneud cais ar-lein neu drwy’r post. Bydd eich partner angen defnyddio’r un dull i wneud cais.

Bydd rhaid i’r ddau ohonoch gadarnhau ar wahân eich bod eisiau parhau gyda’r cais ym mhob cam o’r broses.

Os yw eich partner yn rhoi’r gorau i ymateb, byddwch yn gallu parhau gyda’r cais fel yr unig geisydd.

Os ydych eisiau gwneud cais am help i dalu’r ffi, rhaid i’r ddau ohonoch fod yn gymwys.

Gwneud cais i ddod â phartneriaeth sifil i ben ar eich pen eich hun

Gallwch wneud cais unigol os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • nid yw eich partner yn cytuno i ddod â’r bartneriaeth sifil i ben
  • nid ydych yn meddwl y bydd eich partner yn cydweithredu neu’n ymateb i hysbysiadau gan y llys

Bydd rhaid ichi gadarnhau eich bod eisiau parhau gyda’r cais ym mhob cam o’r broses.

3. Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais i ddod â phartneriaeth sifil i ben ar-lein neu drwy’r post. Mae’n costio £612.

Fel arfer mae’n cymryd o leiaf 6 mis.

Gofynnir ichi am gyfeiriad cyfredol eich partner sifil fel gall y llys anfon copi o’r cais atynt. Darllenwch fwy yma am beth i’w wneud os nad ydych yn gwybod beth yw cyfeiriad eich partner.

Gwneud cais ar-lein

Gallwch wneud cais i ddod â phartneriaeth sifil i ben ar-lein.

Bydd arnoch angen cerdyn debyd neu gredyd i wneud cais.

Gwneud cais drwy’r post

Llenwch ffurflen cais am ddiddymiad.

Gallwch gael cymorth i lenwi’r ffurflen mewn swyddfa .

Anfonwch gopi o’r ffurflen i:

Gwasanaeth Ysgariadau a Diddymiadau GLlTEF
Blwch Post 13226
Harlow
CM20 9UG

Cadwch gopi o’r ffurflen i chi eich hun.

Sut i dalu

Gallwch dalu un ai gyda:

  • cherdyn debyd neu gredyd - Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn eich ffonio neu’n anfon e-bost atoch gyda’r manylion talu
  • siec - yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EFâ€�

4. Gwneud cais am orchymyn amodol

Mae gorchmyn amodol yn ddogfen sy’n dweud nad yw’r llys yn gweld unrhyw reswm pan na allwch ddod â’r bartneriaeth sifil i ben.

Os nad yw eich partner yn cytuno i ddod â’r bartneriaeth sifil i ben, gallwch dal wneud cais am orchymyn amodol. Bydd rhaid i chi fynd i wrandawiad yn y llys i drafod yr achos, lle bydd barnwr yn penderfynu p’un a dylid cymeradwyo’r gorchymyn amodol neu beidio.

Sut i wneud cais

Bydd sut byddwch yn gwneud cais am orchymyn amodol yn dibynnu ar pryd wnaeth y llys gychwyn eich cais i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben.

Os wnaeth y llys gychwyn eich cais cyn 6 Ebrill 2022

Llenwch y ffurflen gais am orchymyn amodol. Rhaid i chi aros am o leiaf 7 diwrnod ar ôl i’ch partner sifil gael eu copi nhw o’r cais am ddiddymiad.

Os nad yw eich partner yn cytuno i ddod â’r bartneriaeth sifil i ben, llenwch adran B o’r ffurflen, gan nodi eich bod eisiau ‘gwrandawiad rheoli achos� gerbron y barnwr.

Byddwch hefyd angen llenwi datganiad yn cadarnhau bod yr hyn a ddywedir yn eich cais am ddiddymiad yn wir. Mae 4 ffurflen datganiad - defnyddiwch yr un sy’n berthnasol i’r rheswm rydych wedi’i roi dros ddod â’r bartneriaeth sifil i ben.

Bydd angen i’r ffurflenni ddangos bod eich partner sifil:

  • wedi cael y cais am ddiddymiad
  • yn cytuno i’r diddymiad os ydych yn defnyddio’r ffaith eich bod wedi byw ar wahân am 2 flynedd fel eich rheswm
  • yn cytuno gydag unrhyw drefniant arfaethedig ar gyfer eich plant

Atodwch ymateb eich partner sifil i’r cais am ddiddymiad, a’i anfon i’r llys. Cadwch gopi ar gyfer chi eich hun hefyd.

Os wnaeth y llys gychwyn eich cais ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022

Rhaid i chi aros 20 wythnos ar ôl i’ch cais i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben gychwyn cyn gwneud cais am orchymyn amodol.

Os wnaethoch gais i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben ar-lein, fe gewch eich hysbysu am sut i wneud cais am y gorchymyn amodol ar-lein.

Gallwch wneud cais am orchymyn amodol a pharhau i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben fel unig geisydd, hyd yn oed os wnaethoch gychwyn y broses ar y cyd gyda’ch partner sifil.

I wneud cais drwy’r post, llenwch y ffurflen gais am orchymyn amodol.

5. Gwneud cais am orchymyn terfynol

Y gorchymyn terfynol yw’r ddogfen gyfreithiol sy’n dod â’ch partneriaeth sifil i ben.

Rhaid i chi aros am 6 wythnos ar ôl dyddiad y gorchymyn amodol i wneud cais am orchymyn terfynol.

Os mai eich partner sifil wnaeth gais am orchymyn amodol, bydd rhaid i chi aros am 3 mis a 6 wythnos ar ôl dyddiad y gorchymyn amodol.

Gwnewch gais o fewn 12 mis o gael y gorchymyn amodol - fel arall bydd rhaid i chi esbonio’r oedi i’r llys.

Os ydych eisiau trefniant rwymol gyfreithiol ar gyfer rhannu arian ac eiddo rhaid ichi wneud cais am hwn cyn ichi wneud cais am orchymyn terfynol.

Sut i wneud cais

Bydd sut byddwch yn gwneud cais am orchymyn terfynol yn dibynnu ar pryd wnaeth y llys gychwyn eich cais i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben.

Os wnaeth y llys gychwyn eich cais cyn 6 Ebrill 2022

Llenwch y ffurflen gais i wneud gorchymyn amodol yn derfynol.

Dychwelwch y ffurflen wedi’i llenwi i’r llys. Fel arfer, dyma’r llys a ddeliodd gyda’ch gorchymyn amodol.

Os wnaeth y llys gychwyn eich cais ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022

Os wnaethoch gais i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben ar-lein, fe gewch eich hysbysu am sut i wneud cais am y gorchymyn terfynol ar-lein.

I wneud cais drwy’r post, llenwch y ffurflen gais am orchymyn terfynol.

Gallwch wneud cais am orchymyn terfynol fel ceisydd unigol, hyd yn oed os wnaethoch gychwyn y broses i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben ar y cyd gyda’ch partner sifil.

Cael y gorchymyn terfynol

Bydd y llys yn gwirio nad oes unrhyw reswm pam na ellir dod â’r bartneriaeth sifil i ben. Rhaid ichi ddarparu’r holl fanylion y mae’r llys yn gofyn amdanynt o fewn y terfynau amser.

Os yw’r llys yn hapus gyda’r holl wybodaeth, bydd yn anfon y gorchymyn terfynol atoch chi a’ch partner sifil.

Unwaith y cewch eich gorchymyn terfynol, bydd eich partneriaeth sifil wedi dod i ben a gallwch briodi neu ymrwymo i bartneriaeth sifil arall.

Rhaid i chi gadw eich gorchymyn terfynol yn ddiogel - bydd arnoch angen ei ddangos os byddwch yn ymrwymo i bartneriaeth sifil arall neu i brofi eich statws priodasol.

6. Os nad oes gan eich partner alluedd meddyliol

Gallwch wneud cais i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben os nad oes gan eich partner ‘alluedd meddyliol� ac ni all gytuno i ddod â’r bartneriaeth sifil i ben na chymryd rhan yn y broses.

Bydd eich partner angen rhywun i wneud penderfyniadau iddynt yn ystod y broses. Gelwir yr unigolyn sy’n gweithredu ar eu rhan yn ‘gyfaill cyfreitha�. Gall fod yn aelod o’r teulu, yn ffrind agos neu’n rhywun arall sy’n gallu eu cynrychioli.

Nid oes gan eich partner gyfaill cyfreitha

Os nad oes rhywun addas sy’n fodlon bod yn gyfaill cyfreitha iddynt, gallwch wneud cais i’r llys benodi cyfaill cyfreitha ar eu cyfer.

Gall y Cyfreithiwr Swyddogol gytuno i weithredu fel cyfaill cyfreitha eich partner pan nad oes rhywun arall i wneud hyn (‘cyfaill cyfreitha fel dewis olaf�).

Sut i wneud cais

  1. Gwiriwch nad oes rhywun arall sy’n addas neu sy’n fodlon gweithredu fel cyfaill cyfreitha eich partner sifil.

  2. Gwiriwch fod arian ar gael ar gyfer unrhyw gostau bydd rhaid i’r Cyfreithiwr Swyddogol eu talu. Efallai bydd eich partner sifil yn gallu cael cymorth cyfreithiol.

  3. Rhowch fanylion meddyg/gweithiwr proffesiynol meddygol arall eich partner sifil i’r llys, fel y gellir gofyn am dystysgrif galluedd.

Ar ôl ichi wneud cais

Os bydd y Cyfreithiwr Swyddogol yn cytuno i weithredu fel cyfaill cyfreitha eich partner sifil, byddwch yn gallu diweddu eich partneriaeth sifil.

Cysylltu â staff y Cyfreithiwr Swyddogol

Anfonwch e-bost neu ffoniwch y tîm cyfraith breifat os oes gennych ymholiad.

Y Cyfreithiwr Swyddogol - tîm cyfraith breifat
[email protected]
Rhif ffôn: 020 3681 2754
Gwybodaeth am brisiau galwadau