Cytundebau Setliad TWE

Sgipio cynnwys

Sut i gael Cytundeb Setliad TWE a rhoi gwybod i CThEF beth sydd arnoch

Gallwch wneud cais i gael Cytundeb Setliad TWE (PSA) ar-lein. Os nad ydych yn gallu gwneud cais ar-lein, gallwch wneud cais drwy鈥檙 post.

Gallwch gael asiant i wneud cais ar gyfer Cytundeb Setliad TWE ar eich rhan. Bydd angen i chi roi llythyr o awdurdod wedi鈥檌 lofnodi iddo os nad oes ganddo awdurdodiad i wneud cais yn barod.

Cysylltwch 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os ydych am gael cyngor ar gael a chyfrifo鈥檆h Cytundeb Setliad TWE.

Gwneud cais ar-lein

Mae angen eich cyfeirnod TWE y cyflogwr arnoch. Mae hwn yn rhif 3 digid, yn flaenslaes ac yna鈥檔 gymysgedd o lythrennau a rhifau, fel 123/AB456. Gallwch ddod o hyd i hyn ar lythyrau sydd gennych gan CThEF am TWE.

Rydych hefyd angen manylion cyswllt, gan gynnwys:

  • enw鈥檙 busnes

  • cyfeiriad

  • eich rhif ff么n

  • eich cyfeiriad e-bost (oni bai eich bod yn mewngofnodi gyda Dynodydd Defnyddiwr (ID) a鈥檙 cyfrinair Porth y Llywodraeth)

Bydd CThEF yn gwirio鈥檙 hyn sydd wedi鈥檌 gynnwys yn eich Cytundeb Setliad TWE. Byddant yn cysylltu 芒 chi os oes unrhyw broblemau

Os caiff eich cais ei awdurdodi, fe gewch e-bost neu lythyr o gadarnhad. Yna, byddwch yn cael eich anfon eich Cytundeb Setliad TWE drwy鈥檙 post.

Gwneud cais drwy鈥檙 post

Ysgrifennwch at Dreth Busnes a Thollau CThEF gan ddisgrifio鈥檙 treuliau a鈥檙 buddiannau rydych am i鈥檙 Cytundeb Setliad TWE eu talu.

Cytundebau Setliad TWE
Cyllid a Thollau EF / HM Revenue and Customs
BX9 2AN

Unwaith y bydd CThEF wedi cytuno ar yr hyn y gellir ei gynnwys, byddant yn anfon 2 gopi drafft o ffurflen P626 atoch. Llofnodwch a dychwelyd y ddau gopi. Bydd CThEF yn awdurdodi鈥檆h cais ac yn anfon ffurflen yn 么l - dyma鈥檆h Cytundeb Setliad TWE.

Rhowch wybod i CThEF beth sydd arnoch

Ar 么l i chi gael eich Cytundeb Setliad TWE, mae angen i chi roi gwybod i CThEF beth sydd arnoch bob blwyddyn dreth.

Llenwch a chyflwynwch ffurflen ar-lein. Os na wnewch, bydd CThEF yn cyfrifo鈥檙 swm. Bydd mwy o gosb arnoch os bydd hyn yn digwydd.

Bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw beth na ellir ei gynnwys yn eich Cytundeb Setliad TWE ar wah芒n gan ddefnyddio ffurflen P11D (yn Saesneg). Nid oes angen i chi gyflwyno P11D os ydych yn talu treuliau a buddiannau cyflogeion trwy鈥檆h cyflogres.

Yr hyn sy鈥檔 digwydd nesaf

Bydd y cytundeb yn parhau tan naill ai rydych chi neu CThEF yn ei ganslo neu mae angen i chi ei newid (yn Saesneg). Nid oes angen i chi adnewyddu鈥檙 Cytundeb Setliad TWE bob blwyddyn dreth.