Credyd Gofalwr

Printable version

1. Trosolwg

Gallwch gael Credyd Gofalwr os ydych yn gofalu am rywun am o leiaf 20 awr yr wythnos.

Mae Credyd Gofalwr yn gredyd Yswiriant Gwladol sy’n helpu i lenwi’r gwagleoedd yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Mae eich Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol

Ni fydd eich incwm, cynilion neu fuddsoddiadau yn effeithio ar eich cymhwysedd am Gredyd Gofalwr.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (Saesneg)

2. Beth fyddwch yn ei gael

Os ydych yn gymwys am Gredyd Gofalwr, gallwch gael credydau i helpu llenwi gwagleoedd yn eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Mae hwn yn golygu y gallwch gymryd gyfrifoldebau gofalu heb iddo effeithio ar eich gallu i fod yn gymwys am Bensiwn y Wladwriaeth.

3. Cymhwysedd

I gael Credyd Gofalwr mae’n rhaid i chi:

Rhaid i’r person rydych yn gofalu amdanynt gael un o’r ganlynol:

  • Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd ganol neu uchaf o’r elfen gofal
  • Lwfans Byw i’r Anabl i Oedolion yr Alban ar y gyfradd ganol neu uchaf o’r elfen gofal
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gweini Cyson
  • elfen bywyd bob dydd Taliad Annibyniaeth Personol
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • elfen ofal Taliad Anabledd Plant ar y gyfradd ganol neu uwch
  • elfen bywyd bob dydd Taliad Anabledd Oedolion ar y gyfradd ganol neu uwch
  • Taliad Anabledd Oedran Pensiwn

Os nad yw’r person rydych yn gofalu amdano yn cael un o’r budd-daliadau hyn, efallai y byddwch yn dal yn gallu cael Credyd Gofalwr. Pan fyddwch yn gwneud cais, llenwch y rhan ‘Tystysgrif Gofal� ar y ffurflen gais a gofynnwch i weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol i’w lofnodi.

Gall gofalwyr nad ydynt yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr fod yn gymwys i gael Credyd Gofalwr.

Seibiannau o ofalu a chymhwysedd

Gallwch gael Credyd Gofalwr o hyd os ydych yn cymryd seibiant o ofalu (hyd at 12 wythnos olynol).

Er enghraifft, gallwch gael Credyd Gofalwr o hyd am 12 wythnos os:

  • rydych yn cymryd gwyliau byr
  • yw rhywun rydych yn gofalu amdano yn yr ysbyty
  • rydych chi yn yr ysbyty

Rhowch wybod i’r Uned Lwfans Gofalwr os ydych yn cael seibiant o ofalu am dros 12 wythnos yn olynol.

Uned Lwfans Gofalwr
Ffôn: 0800 731 0297
Ffôn testun: 0800 731 0317
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0297
Iaith Arwyddion Prydain os ydych ar gyfrifiadur � darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

4. Sut i wneud cais

Cyn i chi ddechrau

Nid oes rhaid i chi wneud cais am Gredyd Gofalwr os ydych:

  • yn cael Lwfans Gofalwr â€� byddwch yn cael y credydau’n awtomatig
  • yn cael Budd-dal Plant am blentyn sydd o dan 12 oed â€� byddwch yn cael y credydau’n awtomatig
  • yn ofalwr maeth â€� gallwch wneud cais am gredydau Yswiriant Gwladol yn lle

Gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen

Lawrlwythwch y ffurflen gais Credyd Gofalwr.

Mae’r ffurflen yn cynnwys Tystysgrif Gofal � gofynnwch i weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol ei lofnodi i chi.

Gallwch hefyd gael y ffurflen trwy ffonio’r Uned Lwfans Gofalwr.

Uned Lwfans Gofalwr
Ffôn: 0800 731 0297
Ffôn testun: 0800 731 0317
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0297
Iaith Arwyddion Prydain os ydych ar gyfrifiadur � darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Fformatau amgen

Ffoniwch yr Uned Lwfans Gofalwr a gofynnwch am fformatau amgen, fel braille, print bras, neu CD sain.

Ble i anfon eich ffurflen

Freepost DWP Carers Allowance Unit

Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth ar yr amlen heblaw am y cyfeiriad freepost. Nid oes angen cod post neu stamp arnoch.

Os ydych yn anghytuno gyda phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hwn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.