Codau treth
Pam y gallai鈥檆h cod treth newid
Efallai y bydd CThEF yn diweddaru鈥檆h cod treth os yw un o鈥檙 canlynol yn berthnasol:
-
rydych yn dechrau swydd newydd
-
rydych yn cael budd-daliadau trethadwy鈥檙 Wladwriaeth
-
rydych yn dechrau cael incwm o bensiwn neu swydd ychwanegol
-
mae swm wythnosol eich Pensiwn y Wladwriaeth yn newid
-
mae鈥檆h cyflogwr yn rhoi gwybod i CThEF eich bod wedi dechrau neu stopio cael buddiannau o鈥檆h swydd (yn agor tudalen Saesneg)
-
rydych yn hawlio Lwfans Priodasol
-
rydych yn hawlio treuliau rydych yn cael rhyddhad treth arnynt
Mae鈥檔 bosibl hefyd y rhoddir cod treth dros dro i chi os byddwch yn newid swydd ac os nad yw鈥檆h manylion incwm yn cyrraedd CThEF mewn pryd.
Os yw鈥檆h cod treth wedi newid, gallwch ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth Gwirio鈥檆h Treth Incwm ar-lein er mwyn dysgu pam.