Deall codau treth eich cyflogeion
Newidiadau yn ystod y flwyddyn dreth
Fel arfer, mae cod treth rhywun yn newid os bydd ei incwm rhydd o dreth (Lwfans Personol) yn codi neu鈥檔 gostwng. Er enghraifft, os yw鈥檔 dechrau cael buddiant trethadwy megis car cwmni, neu鈥檔 peidio 芒鈥檌 gael mwyach.
-
Bydd Cyllid a Thollau EM (CThEF) yn anfon rhybudd e-bost atoch os yw cod treth un o鈥檆h cyflogeion yn newid.
-
Gallwch gyrchu鈥檙 cod treth newydd yn聽TWE Ar-lein聽(o dan 鈥榟ysbysiadau codau treth鈥�), yn y聽rhaglen Gwyliwr Bwrdd Gwaith TWE, neu yn eich meddalwedd cyflogres (os oes ganddi鈥檙 nodwedd hon). Gwiriwch fod cyflog a threth flaenorol eich cyflogai wedi鈥檜 cynnwys gyda鈥檙 cod treth newydd. Os ydynt wedi鈥檜 cynnwys, nodwch y ffigurau hyn.
-
Cyn gynted ag y bo modd, a chyn y tro nesaf i chi dalu鈥檆h cyflogai, dylech ddiweddaru鈥檌 gofnod y gyflogres gan ddefnyddio鈥檌 god treth newydd. Ychwanegwch gyflog a threth flaenorol eich cyflogai, os cawsoch y ffigurau hyn gyda鈥檙 cod treth newydd.
Weithiau, gelwir hysbysiad cod treth yn ffurflen P6.
Os ydych yn cael cod treth newydd y cyflogai pan fo鈥檔 rhy hwyr i鈥檞 ddefnyddio yn y flwyddyn dreth, dylech ei ddefnyddio yn y聽flwyddyn dreth newydd.