Atgyfeirio cymhorthdal arfaethedig Morglawdd Caergybi i Stena Line Ports Ltd gan Lywodraeth Cymru

Mae鈥檙 Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau (SAU) wedi derbyn cais gan Lywodraeth Cymru am adroddiad ynghylch cymhorthdal arfaethedig i Stena Line Ports Ltd i鈥檞 cefnogi i dalu costau adnewyddu鈥檙 morglawdd ym Mhorthladd Caergybi, Ynys M么n.

Amserlen weinyddol

Dyddiad Cam Gweithredu
9 Awst 2023 Cyhoeddi adroddiad SAU
12 Gorffennaf 2023 Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau trydydd parti (ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar 么l 5pm ar y dyddiad hwn yn cael eu hystyried)
28 Mehefin 2023 Dechrau鈥檙 cyfnod adrodd

Adroddiad Terfynol

9 Awst 2023: Mae鈥檙 SAU wedi cyhoeddi ei adroddiad sy鈥檔 darparu cyngor i Lywodraeth Cymru yngl欧n 芒鈥檙 cymhorthdal arfaethedig i Stena Line Ports Ltd i adnewyddu morglawdd Porthladd Caergybi. Mae鈥檙 adroddiad yn nodi ein gwerthusiad o Asesiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru i鈥檙 cymhorthdal arfaethedig gyda鈥檙 gofynion wedi eu nodi yn Neddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022.

Cais gan Lywodraeth Cymru

27 Mehefin 2023: Mae鈥檙 SAU wedi derbyn cais gan Lywodraeth Cymru am adroddiad ynghylch cymhorthdal arfaethedig i Stena Line Ports Ltd. ar gyfer adnewyddu鈥檙 morglawdd ym Mhorthladd Caergybi. Mae鈥檙 cais hwn yn ymwneud 芒 Chymhorthdal o Ddiddordeb Arbennig.

Bydd yr SAU yn paratoi adroddiad, a fydd yn darparu gwerthusiad o asesiad Llywodraeth Cymru i weld a yw鈥檙 cymhorthdal yn cydymffurfio 芒鈥檙 gofynion rheoli cymorthdaliadau (Asesiad o Gydymffurfiaeth). Bydd yr SAU yn cwblhau ei hadroddiad o fewn 30 diwrnod gwaith.

Gwybodaeth am y cynllun a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfrannu arian cyhoeddus i Stena Line Ports Ltd (Stena) i鈥檞 cefnogi i dalu costau adnewyddu鈥檙 morglawdd Fictoraidd presennol 2.4km ym Mhorthladd Caergybi (y Porthladd). Adeiladwyd y morglawdd rhwng 1845 a 1873 ac mae wedi bod o dan berchnogaeth Stena ers 1991.

Disgwylir i鈥檙 gwaith adnewyddu gostio mwy na 拢100 miliwn a bydd cymorth cyhoeddus yn cynnwys cyfanswm cymhorthdal o tua 拢28 miliwn.

Deallir, os na wneir gwaith adnewyddu, byddai hyn yn y pen draw yn arwain at golli鈥檙 morglawdd, gan leihau gallu鈥檙 porthladd i ddarparu gwasanaethau fferi dibynadwy a chynyddunifer y gwasanaethau lle ceir oedi ac sy鈥檔 cael eu canslo oherwydd tywydd gwael. Gallai hyn arwain at gau鈥檙 Porthladd a fyddai鈥檔 cael effeithiau cymdeithasol ac economaidd negyddol sylweddol.

Y cynnig yw darparu鈥檙 cymhorthdal dros oes y prosiect adnewyddu ei hun, y disgwylir iddo beidio 芒 bod yn fwy na 2 flynedd. Bydd y grant yn cael ei dalu i Stena mewn rhandaliadau sy鈥檔 adlewyrchu鈥檙 cynnydd a wneir.

Gwybodaeth i drydydd part茂on

Os hoffech wneud sylw ar faterion sy鈥檔 berthnasol i werthusiad yr SAU o鈥檙 Asesiad o Gydymffurfiaeth ynghylch y cymhorthdal arfaethedig gan Lywodraeth Cymru i Stena Line Ports Ltd., anfonwch eich sylwadau cyn 5pm ar y dyddiad a nodir yn yr amserlen uchod. I gael arweiniad ar sylwadau sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 Asesiad o Gydymffurfiaeth, gweler yr adran ar y cyfnod adrodd a thryloywder yng Ngweithrediad swyddogaethau rheoli cymorthdaliadau鈥檙 Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau.

Anfonwch eich cyflwyniadau atom yn [email protected], gan anfon copi at yr awdurdod cyhoeddus: [email protected] Darparwch hefyd gyfeiriad cyswllt ac eglurwch ym mha rinwedd rydych yn gwneud y cyflwyniad (er enghraifft, fel unigolyn neu gynrychiolydd busnes neu sefydliad).

Nodiadau i drydydd part茂on sy鈥檔 dymuno gwneud cyflwyniad

Dim ond os gellir ei rannu 芒 Llywodraeth Cymru y bydd yr SAU yn ystyried eich cyflwyniad. Bydd yr SAU yn anfon copi o鈥檆h cyflwyniad i Lywodraeth Cymru ynghyd 芒鈥檌 hadroddiad. Mae hyn er mwyn galluogi鈥檙 awdurdod cyhoeddus i ystyried y cyflwyniad yn ei benderfyniad ynghylch a ddylid caniat谩u neu addasu鈥檙 cynllun neu ei asesiad. Gofynnwn felly i chi roi caniat芒d penodol i鈥檆h cyflwyniad llawn, heb ei olygu, gael ei rannu. Rydym hefyd yn eich annog i rannu鈥檆h cyflwyniad yn uniongyrchol 芒 Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio鈥檙 cyfeiriad e-bost a ddarperir uchod.

Gallai鈥檙 SAU ddefnyddio鈥檙 wybodaeth a roddwch yn ei hadroddiad cyhoeddedig. Felly, dylech nodi yn eich cyflwyniad a yw unrhyw rannau penodol ohono yn fasnachol gyfrinachol. Os yw鈥檙 SAU yn dymuno cyfeirio yn ei adroddiad cyhoeddedig at ddeunydd a nodir yn gyfrinachol, bydd yn cysylltu 芒 chi ymlaen llaw.

Am fanylion pellach ar gyfrinachedd cyflwyniadau trydydd parti, gweler nodi gwybodaeth gyfrinachol yng Ngweithrediad swyddogaethau rheoli cymorthdaliadau鈥檙 Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau.

Cysylltiadau T卯m prosiect SAU: [email protected] T卯m y wasg CMA: 020 3738 6460 neu [email protected]

Updates to this page

Published 14 September 2023