Cael help gyda chynilion os ydych ar incwm isel (Cymorth i Gynilo)

Printable version

1. Sut mae’n gweithio

Math o gyfrif cynilo yw Cymorth i Gynilo. Mae’n rhoi cyfle i rai pobl sydd â hawl i Gredyd Treth Gwaith, neu sy’n cael Credyd Cynhwysol, gael bonws o 50c am bob £1 y maent yn ei chynilo dros 4 blynedd.

Mae Cymorth i Gynilo wedi’i gefnogi gan y Llywodraeth sy’n golygu bod yr holl gynilion yn y cynllun yn ddiogel.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Sut mae taliadau’n gweithio

Gallwch gynilo rhwng £1 a £50 bob mis calendr. Nid oes rhaid i chi dalu arian i mewn bob mis.

Gallwch dalu arian i mewn i’ch cyfrif Cymorth i Gynilo gan ddefnyddio cerdyn debyd, archeb sefydlog neu drosglwyddiad banc.

Gallwch dalu i mewn cymaint o weithiau ag y mynnwch, ond y swm mwyaf y gallwch ei dalu i mewn bob mis calendr yw £50. Er enghraifft, os ydych wedi cynilo £50 erbyn 8 Ionawr, ni allwch dalu i mewn eto tan 1 Chwefror.

Gallwch ond tynnu arian allan o’ch cyfrif Cymorth i Gynilo i’ch cyfrif banc.

Sut mae bonysau’n gweithio

Cewch fonysau ar ddiwedd yr ail flwyddyn a’r bedwaredd flwyddyn. Maent yn seiliedig ar faint rydych wedi’i gynilo.

Yr hyn sy’n digwydd ar ôl 4 blynedd

Bydd eich cyfrif Cymorth i Gynilo yn cau 4 blynedd ar ôl i chi ei agor. Ni fyddwch yn gallu ei ailagor nac agor cyfrif Cymorth i Gynilo arall. Byddwch yn gallu cadw’r arian o’ch cyfrif.

Gallwch gau’ch cyfrif ar unrhyw adeg. Os byddwch yn cau’ch cyfrif yn gynnar, byddwch yn colli’ch bonws nesaf ac ni fydd modd i chi agor un arall.

Mewngofnodi

Mewngofnodwch i’ch cyfrif Cymorth i Gynilo os oes un gennych yn barod.

2. Yr hyn y byddwch yn ei gael

Gallwch ennill 2 fonws rhydd o dreth dros 4 blynedd. Cewch unrhyw fonysau rydych wedi’u hennill, hyd yn oed os byddwch yn tynnu arian allan.

Ar ôl eich 2 flynedd gyntaf, cewch fonws cyntaf os ydych wedi bod yn defnyddio’ch cyfrif i gynilo. Bydd y bonws hwn yn 50% o’r balans uchaf rydych wedi’i gynilo.

Ar ôl 4 blynedd, cewch fonws terfynol os byddwch yn parhau i gynilo. Bydd y bonws hwn yn 50% o’r gwahaniaeth rhwng 2 swm:

  • y swm uchaf a gynilwyd yn y 2 flynedd gyntaf (blynyddoedd 1 a 2)
  • y swm uchaf a gynilwyd yn y 2 flynedd olaf (blynyddoedd 3 a 4)

Os na fydd eich balans uchaf yn cynyddu, ni fyddwch yn ennill bonws terfynol.

Y mwyaf y gallwch ei dalu i’ch cyfrif bob mis calendr yw £50, sef £2,400 dros 4 blynedd. Y mwyaf y gallwch ei ennill o’ch cynilion mewn 4 blynedd yw £1,200 mewn arian bonws.

Mae’ch bonws yn cael ei dalu i’ch cyfrif banc, nid i’ch cyfrif Cymorth i Gynilo.

Enghraifft Rydych yn talu £25 i mewn bob mis calendr am 2 flynedd. Nid ydych yn tynnu unrhyw arian allan. Eich balans uchaf fydd £600. Eich bonws cyntaf yw £300, sef 50% o £600.

Yn ystod blynyddoedd 3 a 4, rydych yn cynilo £200 yn ychwanegol i dyfu’ch balans uchaf o £600 i £800. Eich bonws terfynol yw £100, sef 50% o £200. Er i chi dynnu rhywfaint o arian allan ar ôl i’ch balans fod yn £800, nid yw hyn yn effeithio ar eich bonws.

Yr hyn a fydd yn digwydd os byddwch yn tynnu arian allan

Os byddwch yn tynnu arian allan, bydd yn anoddach i chi wneud y canlynol:

  • tyfu’ch balans uchaf
  • ennill y bonysau mwyaf posibl

Gallai tynnu arian allan olygu nad ydych yn gallu ennill bonws terfynol � yn dibynnu ar faint a dynnwch allan a phryd y gwnewch hynny.

3. Cymhwystra

Gallwch agor cyfrif Cymorth i Gynilo os ydych yn cael Credyd Cynhwysol a chawsoch chi (ynghyd â’ch partner os yw’n gais ar y cyd) gyflog clir o £1 neu fwy yn ystod eich cyfnod asesu misol diwethaf.

Eich cyflog clir yw’ch cyflog ar ôl didyniadau (megis treth neu Yswiriant Gwladol).

Os cewch daliadau fel pâr, gallwch chi a’ch partner wneud cais am eich cyfrifon Cymorth i Gynilo eich hun. Mae’n rhaid i chi wneud cais yn unigol.

Mae angen i chi hefyd fod yn byw yn y DU. Os ydych yn byw dramor, gallwch wneud cais am gyfrif os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • rydych yn was y Goron, neu’n briod neu’n bartner sifil i’r unigolyn hwnnw
  • rydych yn aelod o’r Lluoedd Arfog Prydeinig, neu’n briod neu’n bartner sifil i’r unigolyn hwnnw

Os ydych yn rhoi’r gorau i hawlio budd-daliadau

Gallwch barhau i ddefnyddio’ch cyfrif Cymorth i Gynilo.

4. Sut y bydd yn effeithio ar eich budd-daliadau

Gallai cynilo arian trwy gyfrif Cymorth i Gynilo effeithio ar eich cymhwystra i gael rhai budd-daliadau a faint rydych yn ei gael.

Credyd Cynhwysol

Os oes gennych chi neu’ch partner £6,000 neu lai mewn cynilion personol, ni fydd hyn yn effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol a gewch. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gynilion yn eich cyfrif Cymorth i Gynilo.

Ni fydd eich bonysau Cymorth i Gynilo yn effeithio ar eich taliadau Credyd Cynhwysol.

Credyd Treth Gwaith

Ni fydd unrhyw gynilion neu fonysau rydych yn eu hennill drwy’r cynllun Cymorth i Gynilo yn effeithio ar faint o Gredyd Treth Gwaith a gewch.

Budd-dal Tai

Os oes gennych chi neu’ch partner £6,000 neu lai mewn cynilion personol, ni fydd hyn yn effeithio ar faint o Fudd-dal Tai a gewch. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gynilion yn eich cyfrif Cymorth i Gynilo.

Ni fydd eich bonysau Cymorth i Gynilo yn effeithio ar eich taliadau Budd-dal Tai.

5. Sut i wneud cais

Bydd yn rhaid i chi fewngofnodi i greu cyfrif Cymorth i Gynilo. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.

Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol neu’ch cod post arnoch, a 2 o’r canlynol:

  • pasbort dilys y DU

  • trwydded yrru cerdyn-llun y DU, a gyhoeddwyd gan y DVLA (neu’r DVA yng Ngogledd Iwerddon)

  • manylion hawliad am gredyd treth, os gwnaethoch un

  • manylion o Ffurflen Dreth Hunanasesiad o’r 2 flynedd ddiwethaf, os cyflwynoch un

  • gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich cofnod credyd, os oes gennych un (megis benthyciadau, cardiau credyd, neu forgeisi)

Pan fyddwch yn gwneud cais, gofynnir i chi roi manylion eich cyfrif banc yn y DU.

Mewngofnodi

Mewngofnodwch i’ch cyfrif Cymorth i Gynilo os oes un gennych yn barod.