Cael gwybodaeth am eiddo a thir

Printable version

1. Trosolwg

Gallwch gael gwybodaeth am eiddo neu dir cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, hyd yn oed os nad ydych yn berchen arno.

Mae’r math o wybodaeth y gallwch ei chael yn cynnwys y:

  • cofrestr teitl â€� pwy sy’n berchen ar yr eiddo neu’r tir, ac unrhyw hawliau tramwy

  • rhif teitl â€� y rhif unigryw a roddir i eiddo neu ddarn o dir

  • cynllun teitl â€� lleoliad a ³Ù³ó±ð°ù´Ú²â²Ô²¹³Ü’r eiddo neu’r tir

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Chwilio’r gofrestr tir ac eiddo

Mae copïau o’r gofrestr teitl a’r cynllun teitl ar gael trwy chwilio’r gofrestr.

Chwilio’r map mynegai tir ac eiddo

Gofynnwch am chwiliad o’r map mynegai os nad yw eiddo’n cael ei ganfod trwy chwilio’r gofrestr.

Cael copi o’r gweithredoedd

Efallai gallwch gael gwybodaeth gyfredol a blaenorol am eiddo cofrestredig, er enghraifft y perchnogion blaenorol, trwy wneud cais am gopi o’r gweithredoedd.

Chwilio prisiau eiddo

Mae gwybodaeth am brisiau eiddo ar gael trwy chwilio’r mynegai prisiau tai a’r gwasanaeth data pris a dalwyd.

2. Chwilio’r gofrestr

Mae Cofrestrfa Tir EF yn cadw cofnodion ar gyfer y rhan fwyaf o eiddo neu dir a werthwyd yng Nghymru a Lloegr er 1993, gan gynnwys y gofrestr teitl, cynllun teitl a chrynodeb o’r teitl.

Chwilio’r gofrestr ar-lein

Chwiliwch y gofrestr yn ôl cyfeiriad neu leoliad.

Os nad yw eiddo’n ymddangos yn y chwiliad, efallai ei fod wedi ei ffeilio o dan y cyfeiriad anghywir. Gofynnwch am chwiliad o’r map mynegai yn lle hynny.

Cofrestr teitl

Mae gan y gofrestr teitl fanylion am yr eiddo neu’r tir (ar ffurf PDF). Mae’n cynnwys:

  • y rhif teitl
  • pwy sy’n berchen arno
  • y swm a dalwyd (eiddo yn unig, os yw ar gael)
  • unrhyw hawliau tramwy
  • a yw morgais arno wedi cael ei ‘ryddhauâ€�, er enghraifft ei dalu

Crynodeb o’r teitl

Mae’r crynodeb o’r teitl (i’w weld ar-lein) yn cynnwys:

  • y rhif teitl
  • pwy sy’n berchen arno
  • y swm a dalwyd amdano
  • a yw’r eiddo’n rhydd-ddaliol neu’n brydlesol (a elwir yn ‘daliadaethâ€�)
  • enw a chyfeiriad y rhoddwr benthyg (os oes morgais ar yr eiddo)

Bydd rhagor o wybodaeth gan y brydles os yw’r eiddo’n brydlesol.

Cynllun teitl

Mae’r cynllun teitl yn fap sy’n dangos:

Prynu copïau o’r wybodaeth

Gallwch lawrlwytho copïau ar-lein o’r wybodaeth am ffi ond ni allwch eu defnyddio fel prawf o berchnogaeth.

I gael copïau i’w defnyddio fel prawf o berchnogaeth (mewn achos llys er enghraifft) dylech archebu copïau swyddogol.

Archebu copïau swyddogol

Lawrlwythwch a llenwch gais am gopïau swyddogol o ddogfennau a’i anfon i Gofrestrfa Tir EF gyda’ch ffi.

HM Land Registry
Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Bydd eich copïau yn cyrraedd mewn llai nag wythnos.

¹ó´Úï´Ç±ð»å»å

Dogfen Ffi
Cofrestr teitl (copi ar-lein) £3
Cynllun teitl (copi ar-lein) £3
Cofrestr teitl (copi swyddogol) £7
Cynllun teitl (copi swyddogol) £7

Hawliau dros derfynau tir ac eiddo cyffiniol

Gall y gofrestr teitl roi manylion ichi am hawliau dros dir cyffiniol. Gallwch wneud cais am gopi o’r gweithredoedd os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.

Mae cynlluniau teitl yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am derfynau yn unig. Nid oes cofnod o’r union derfynau fel rheol.

Cael cofrestri teitl hanesyddol

Efallai y gallwch gael gwybod pwy oedd yn berchen ar yr eiddo cyn y perchennog presennol o gofrestr teitl hanesyddol. Gall fod yn ddefnyddiol hefyd os ydych yn ceisio gwybod pa mor hen yw eiddo.

Gofynnwch i Gofrestrfa Tir EF chwilio pwy oedd yn berchen ar yr eiddo ar gyfer dyddiad penodol neu ddyddiadau lluosog.

Ar gyfer eiddo a gofrestrwyd cyn 1993

²µ²â»å²¹â€™r:

  • rhif teitl neu gyfeiriad yr eiddo
  • dyddiad neu ddyddiadau rydych yn gwneud cais amdano/amdanynt

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn chwilio ei chofnodion ac yn dweud wrthych a oes copi ar gael, a sut i wneud cais amdano.

Ar gyfer eiddo a gofrestrwyd ar ôl 1993

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen HC1. Anfonwch y ffurflen i Gofrestrfa Tir EF gyda £7 ar gyfer pob dyddiad rydych yn gwneud cais amdano.

HM Land Registry
Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Bydd canlyniadau eich chwiliad yn cyrraedd mewn llai nag wythnos.

Os nad ydych yn gwybod y dyddiad rydych yn chwilio amdano, .

3. Chwilio’r map mynegai

Mae’r map mynegai yn cynnwys gwybodaeth am yr holl dir ac eiddo sydd wedi eu cofrestru neu sy’n cael eu cofrestru gyda Chofrestrfa Tir EF.

Defnyddiwch y wybodaeth hon i gael rhif teitl eiddo nad yw’n ymddangos mewn chwiliad o’r gofrestr.

Nid yw pob eiddo’n ymddangos mewn chwiliad o’r gofrestr oherwydd bod terfynau’r eiddo wedi newid ers ei gofrestru, neu am fod cyfeiriad yr eiddo wedi cael ei sillafu’n anghywir, er enghraifft.

Sut i chwilio

Ni allwch chwilio’r map eich hunan.

Dylech ddarparu cyfeiriad y tir neu’r eiddo (os oes un). Os nad oes modd adnabod y tir neu’r eiddo yn ôl y cyfeiriad, gallwch ddarparu:

  • cynllun sy’n nodi’r tir neu’r eiddo’n glir
  • ar gyfer y tir neu’r eiddo

Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais a’i hanfon i Gofrestrfa Tir EF.

HM Land Registry
Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn anfon canlyniadau’r chwiliad atoch, gan gynnwys y rhif/rhifau teitl y mae’r tir neu’r eiddo wedi ei gofrestru oddi tano/tanynt. Gallwch eu defnyddio i chwilio’r gofrestr.

Bydd y chwiliad hefyd yn cadarnhau a yw’r eiddo neu’r tir yn ddigofrestredig.

Y gost

Codir ffi o £8 i chwilio ardal sy’n cwmpasu hyd at 5 teitl cofrestredig.

Os yw’ch chwiliad yn cwmpasu mwy na 5 teitl, bydd Cofrestrfa Tir EF yn cysylltu â chi gyda ffi wedi ei diweddaru. Codir £6 ar gyfer grwpiau o 10 teitl ychwanegol.

Pa mor hir bydd yn cymryd

Bydd canlyniadau eich chwiliad yn cyrraedd mewn llai nag wythnos.

Os ydych yn chwilio’r map mynegai i wneud cais am hawliau cartref

Rhaid ichi ysgrifennu ‘Mae’r chwiliad hwn yn cael ei wneud at ddiben Deddf Cyfraith Teulu 1996 yn unig� ar ben y ffurflen gais.

4. Cael copi o’r gweithredoedd

Efallai y gallwch gael gwybodaeth gyfredol a blaenorol am eiddo cofrestredig, er enghraifft y perchnogion blaenorol, yn y gweithredoedd.

Efallai bydd y gofrestr yn rhoi rhagor o fanylion am hawliau dros dir cyffiniol.

Nid yw Cofrestrfa Tir EF yn cadw gweithredoedd papur gwreiddiol.

Sut i ofyn am gopi o’r gweithredoedd

  1. Darganfod a yw’r eiddo neu’r tir yn gofrestredig.

  2. Talu £7 i lawrlwytho copi o’r gofrestr teitl. Os yw’r gweithredoedd wedi eu nodi fel rhai ‘wedi eu ffeilio� yn y gofrestr, mae gan Gofrestrfa Tir EF gopi wedi ei sganio.

  3. ³¢±ô±ð²Ô·É¾±â€™r ffurflen gais am weithredoedd gan ddefnyddio rhif teitl yr eiddo o’r gofrestr teitl.

Efallai na fydd unrhyw ganlyniadau i’ch chwiliad os nad oes copi o’r gweithredoedd gan Gofrestrfa Tir EF.

Gallai’r gweithredoedd gynnwys sawl dogfen. Codir £11 ar gyfer pob dogfen.

Anfonwch eich ffurflen wedi ei llenwi a’ch taliad i Gofrestrfa Tir EF.

HM Land Registry
Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Ni ellir defnyddio copïau o weithredoedd i brofi perchnogaeth, er enghraifft mewn achos llys. Dylech gael copïau swyddogol o’r gofrestr teitl yn lle hynny.

Os ydych yn fusnes

os ydych yn fusnes sy’n gorfod rheoli chwiliadau lluosog a lawrlwythwch gopïau lluosog o ddogfennau.

5. Chwilio am brisiau eiddo

Gallwch chwilio pris gwerthu eiddo yng Nghymru neu Loegr.

Gallwch gywiro gwybodaeth am y pris gwerthu os ydych yn dod ar draws unrhyw gofnodion anghywir.

Gallwch hefyd yn ôl rhanbarth, sir neu awdurdod lleol ar y mynegai prisiau tai.