Budd-dal tai
Printable version
1. Cymhwyster
Gall Budd-dal Tai eich helpu i dalu鈥檆h rhent os ydych yn ddi-waith, ar incwm isel neu鈥檔 hawlio budd-daliadau. Mae鈥檔 cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol.
惭补别鈥檙 dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English)
Dim ond os yw鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 rhain yn berthnasol y gallwch wneud cais newydd am Fudd-dal Tai:
- rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych mewn tai 芒 chymorth, cysgodol neu dros dro
Rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Os ydych yn sengl gallwch wneud cais newydd am Fudd-dal Tai.
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn byw gyda鈥檆h partner
Gallwch wneud cais newydd am Fudd-dal Tai os oes unrhyw un o鈥檙 canlynol yn berthnasol:
- rydych chi a鈥檆h partner wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- mae un ohonoch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac wedi dechrau hawlio Credyd Pensiwn (i chi fel cwpl) cyn 15 Mai 2019
- rydych mewn tai 芒 chymorth, cysgodol neu dros dro
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth a bod gennych gais sy鈥檔 bodoli eisoes
Ni fydd eich cais presennol yn cael ei effeithio os oeddech, cyn 15 Mai 2019:
- yn cael Budd-dal Tai
- wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Does dim ots os yw鈥檆h partner o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os bydd eich amgylchiadau鈥檔 newid a bod eich Budd-dal Tai yn cael ei stopio, ni allwch ddechrau ei gael eto oni bai eich bod chi a鈥檆h partner yn gymwys i wneud cais newydd.
Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os nad ydych yn gymwys.
Os ydych mewn tai 芒 chymorth, cysgodol neu dros dro
Gallwch wneud cais newydd os:
- rydych yn byw mewn llety dros dro, fel Gwely a Brecwast a drefnir gan eich cyngor
- rydych yn byw mewn lloches i oroeswyr cam-drin domestig
- rydych yn byw mewn tai cysgodol neu gefnogol (fel hostel) sy鈥檔 darparu 鈥榞ofal, cefnogaeth neu oruchwyliaeth鈥� i chi
Os na chewch 鈥榦fal, cefnogaeth neu oruchwyliaeth鈥� trwy鈥檆h tai 芒 chymorth neu gysgodol, gallwch wneud cais am Credyd Cynhwysol i helpu gyda chostau tai.
Os ydych chi mewn tai 芒 chymorth, cysgodol neu dros dro, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol i helpu gyda chostau byw eraill.
Pryd efallai na fyddwch yn gallu hawlio
Fel arfer, ni fyddwch yn cael Budd-dal Tai os:
- mae eich cynilion dros 拢16,000 - oni bai eich bod yn cael Credyd Gwarantedig o Gredyd Pensiwn
- rydych yn talu morgais ar eich cartref eich hun - efallai y gallwch chi gael Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI)
- rydych yn byw yng nghartref perthynas agos
- rydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol (oni bai eich bod mewn tai dros dro neu 芒 chymorth)
- rydych yn byw gyda鈥檆h partner ac maent eisoes yn hawlio Budd-dal Tai
- rydych yn fyfyriwr llawn amser
- rydych yn byw yn y DU fel ceisiwr gwaith Ardal Economaidd Ewropeaidd
- rydych yn geisiwr lloches neu wedi鈥檆h noddi i fod yn y DU
- rydych yn destun rheolaeth mewnfudo ac mae eich hawl i aros yn nodi na allwch hawlio arian cyhoeddus
- rydych yn Denant y Goron
- rydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ond nid yw鈥檆h partner sy鈥檔 byw gyda chi wedi gwneud hynny - oni bai bod gennych gais presennol fel cwpl cyn 15 Mai 2019
Efallai y gallwch gael cymorth arall gyda chostau tai.
Os na, bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i wirio a allwch gael Budd-dal Tai cyn i chi wneud cais
2. Beth fyddwch yn ei gael
Efallai y cewch help gyda鈥檆h rhent cyfan neu ran ohono. Nid oes unrhyw swm penodol o Fudd-dal Tai a bydd yr hyn a gewch yn dibynnu a ydych chi鈥檔 rhentu鈥檔 breifat neu gan gyngor.
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weithio allan yr hyn y gallech ei gael neu i wirio pa gymorth ychwanegol sydd ar gael.
Rhent cyngor a thai cymdeithasol
Mae faint rydych yn ei gael yn dibynnu ar:
- eich rhent 鈥榗ymwys鈥�
- os oes gennych ystafell sb芒r
- incwm eich cartref - gan gynnwys budd-daliadau, pensiynau a chynilion (dros 拢6,000)
- eich amgylchiadau, er enghraifft oedran pobl yn y t欧 neu os oes gan rywun anabledd
Rhent cymwys
Eich rhent cymwys yw鈥檙 swm a ddefnyddir i gyfrifo鈥檆h cais am Fudd-dal Tai. Eich rhent go iawn ydyw ynghyd ag unrhyw daliadau gwasanaeth y mae鈥檔 rhaid i chi eu talu (fel ar gyfer cynnal a chadw lifft neu olchfa gymunedol) ond nid pethau fel costau gwresogi neu dd诺r ar gyfer eich cartref.
Ystafelloedd gwely sb芒r
Gellir lleihau eich Budd-dal Tai os ydych chi鈥檔 byw mewn t欧 cyngor neu dai cymdeithasol a bod gennych ystafell wely sb芒r. Y gostyngiad yw:
- 14% o鈥檙 鈥榬hent cymwys鈥� ar gyfer 1 ystafell wely sb芒r
- 25% o鈥檙 鈥榬hent cymwys鈥� ar gyfer 2 ystafell wely sb芒r neu fwy
Enghraifft
Eich rhent cymwys yw 拢100 yr wythnos, ond mae gennych 1 ystafell wely sb芒r. Mae hynny鈥檔 golygu bod eich rhent cymwys yn cael ei ostwng gan14%, i 拢86 yr wythnos. Bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio鈥檙 ffigwr hwnnw.
Rhannu ystafelloedd gwely
Disgwylir i鈥檙 canlynol rannu:
- cwpl sy鈥檔 oedolion
- 2 blentyn o dan 16 oed o鈥檙 un rhyw
- 2 blentyn o dan 10 oed (waeth beth fo鈥檜 rhyw)
Gall y canlynol gael eu hystafell wely eu hunain:
- oedolyn sengl (16 oed neu鈥檔 h欧n)
- plentyn a fyddai fel arfer yn rhannu ond mae ystafelloedd gwely a rennir eisoes yn cael eu defnyddio, er enghraifft mae gennych chi 3 phlentyn a 2 eisoes yn rhannu
- cwpl neu blant na allant rannu oherwydd anabledd neu gyflwr meddygol
- gofalwr dros nos i chi, eich partner, eich plentyn neu oedolyn arall - dim ond os nad yw鈥檙 gofalwr yn byw gyda chi y mae hyn ond weithiau鈥檔 gorfod aros dros nos
Caniateir un ystafell wely sb芒r ar gyfer:
- gofalwr maeth cymeradwy sydd rhwng lleoliadau ond dim ond am hyd at 52 wythnos o ddiwedd y lleoliad diwethaf
- gofalwr maeth newydd ei gymeradwyo am hyd at 52 wythnos o ddyddiad y gymeradwyaeth os na roddir plentyn gyda nhw yn ystod yr amser hwnnw
Ni fydd ystafelloedd a ddefnyddir gan fyfyrwyr ac aelodau o鈥檙 lluoedd arfog neu wrth gefn yn cael eu cyfrif fel rhai 鈥榮b芒r鈥� os ydyn nhw i ffwrdd ac yn bwriadu dychwelyd adref.
Rhent preifat
Os ydych yn rhentu鈥檔 breifat, eich swm rhent cymwys yw naill ai鈥檆h cyfradd neu鈥檆h rhent gwirioneddol, p鈥檜n bynnag sydd isaf. 惭补别鈥檙 gyfradd LHA yn seiliedig ar:
- lle rydych yn byw
- maint eich cartref -
Faint allwch ei gael
Mae faint rydych yn ei gael yn dibynnu ar:
- ffigwr isaf eich rhent 鈥榗ymwys鈥� neu gyfradd LHA
- incwm eich cartref gan gynnwys budd-daliadau, pensiynau a chynilion (dros 拢6,000)
- eich amgylchiadau (er enghraifft eich oedran neu a oes gennych anabledd)
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol os ydych yn byw mewn:
- cwch t欧 neu angorfa
- safle carafanau
- ystafell gydag unrhyw brydau bwyd wedi鈥檜 cynnwys yn y rhent (a elwir weithiau鈥檔 gartref preswyl)
- hostel
- eiddo a ddiogelir gan y Ddeddf Rhent
Eithriad
Os ydych wedi bod yn cael Budd-dal Tai ers cyn 7 Ebrill 2008, mae鈥檙 cyfyngiadau hyn ond yn berthnasol os ydych yn:
- newid cyfeiriad
- cael seibiant yn eich cais am Fudd-dal Tai
Sut rydych yn cael eich talu
惭补别鈥檙 ffordd rydych yn cael Budd-dal Tai wedi鈥檌 ddalu gan eich cyngor yn dibynnu ar y math o denant ydych chi.
Os ydych yn:
- tenant y cyngor, mae鈥檔 cael ei dalu i鈥檆h cyfrif rhent (ni fyddwch yn derbyn yr arian)
- tenant preifat neu gymdeithas dai, mae鈥檔 cael ei dalu i鈥檆h cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu (anaml gyda siec)
Y cap ar fudd-daliadau
惭补别鈥檙 cap ar fudd-dal yn cyfyngu ar gyfanswm y budd-dal y gallwch ei gael. Mae鈥檔 berthnasol i鈥檙 rhan fwyaf o bobl 16 oed neu drosodd nad ydynt wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych wedi鈥檆h effeithio, bydd eich Budd-dal Tai yn gostwng i sicrhau nad yw cyfanswm y budd-dal a gewch yn fwy na lefel y cap. Defnyddiwch y cyfrifiannell cap budd-daliadau i ddarganfod sut mae鈥檙 cap ar fudd-dal yn effeithio arnoch chi.
Apelio yn erbyn penderfyniad Budd-dal Tai
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol i apelio yn erbyn penderfyniad Budd-dal Tai.
3. Cefnogi eich cais
Byddwch angen darparu rhywfaint o wybodaeth a thystiolaeth i gefnogi鈥檆h cais am Fudd-dal Tai.
Byddwch yn cael Budd-dal Tai yn gyflymach os bydd hyn ar gael pan fyddwch yn gwneud eich cais.
Byddwch angen gwybod:
- faint o rent rydych chi鈥檔 ei dalu
- a oes unrhyw beth arall wedi鈥檌 gynnwys yn y rhent, fel taliadau d诺r, nwy neu drydan
- os ydych chi鈥檔 talu unrhyw daliadau gwasanaeth, gan gynnwys cynnal a chadw adeiladau neu yswiriant
- manylion eich landlord neu asiant
Mathau arbennig o denantiaeth
Os cychwynnodd eich tenantiaeth bresennol ym 1997 neu鈥檔 gynharach a鈥檆h bod yn rhentu gan landlord preifat, bydd angen i chi wybod a oes gennych 鈥榙enantiaeth sicr鈥�. Gallwch .
Os ydych yn byw mewn ac yn talu rhent am eiddo鈥檙 llywodraeth (鈥楾enant y Goron鈥�), nid oes gennych hawl i Fudd-dal Tai. Mae hyn yn cynnwys y lluoedd arfog sy鈥檔 byw mewn llety teulu gwasanaeth (SFA).
Tystiolaeth y bydd yn rhaid i chi ei darparu
Bydd angen i chi ddarparu dogfennau gwreiddiol, nid cop茂au. 惭补别鈥檙 dystiolaeth ategol y bydd ei hangen arnoch yn cynnwys:
- eich slipiau cyflog diweddaraf (5 os telir yn wythnosol, neu 2 os telir yn fisol)
- cyfriflenni banc neu gymdeithas adeiladu am y 2 fis llawn diwethaf
- prawf o incwm neu fuddsoddiadau eraill, gan gynnwys cyfranddaliadau, ISAs neu Fondiau Premiwm
- prawf incwm ar gyfer unrhyw rai nad ydynt yn ddibynyddion sy鈥檔 byw gyda chi, fel perthnasau sy鈥檔 oedolion neu ffrindiau
Bydd angen prawf o enw a chyfeiriad eich partner arnoch chi hefyd. Ni allwch ddefnyddio鈥檙 un ddogfen i brofi eu henw a鈥檜 cyfeiriad.
Rhowch unrhyw 2 o鈥檙 canlynol:
- trwydded gyrru cerdyn llun y DU
- pasbort cyfredol
- tystysgrif geni neu briodas
- trwydded breswylio biometrig (BRP) neu eVisa
- tystysgrif cofrestru neu naturoli
- cerdyn preswylio parhaol
- llythyr gan Gyllid a Thollau EM (HMRC) neu鈥檙 Swyddfa Gartref
- bil cyfleustodau diweddar
- cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu ddiweddar
- datganiadau dyfarnu budd-daliadau diweddar
Os ydych yn rhentu gan landlord preifat
Byddwch angen darparu un o鈥檙 canlynol hefyd:
- cytundeb tenantiaeth neu lyfr rhent
- llythyr gan eich landlord yn cadarnhau eich tenantiaeth - fel rheol darperir hwn ar ddechrau eich tenantiaeth
4. Sut i wneud cais
Mae Budd-dal Tai yn cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol. Bydd angen i鈥檙 mwyafrif o bobl hawlio Credyd Cynhwysol yn lle hynny.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai cyn i chi wneud cais.
Gallwch naill ai wneud cais:
- trwy eich cyngor lleol
- fel rhan o gais Credyd Pensiwn, os ydych yn gymwys am hyn
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich cais am Fudd-dal Tai.
Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn
Gallwch wneud cais am Fudd-dal Tai fel rhan o鈥檆h cais Credyd Pensiwn.
Gwneud cais am Gredyd Pensiwn ar-lein neu cysylltwch 芒鈥檙 Gwasanaeth Pensiwn i wneud cais.
Bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn anfon manylion eich cais am Fudd-dal Tai i鈥檆h cyngor.
Gwasanaeth Pensiwn Ff么n: 0800 99 1234 Ff么n testun: 0800 169 0133 (os na allwch glywed na siarad ar y ff么n): 18001 yna 0800 99 1234 Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm Darganfyddwch am gostau galwadau
Hawlio ymlaen llaw ac 么l-ddyddio
Gallwch hawlio ymlaen llaw hyd at 13 wythnos (neu 17 wythnos os ydych chi鈥檔 60 oed neu鈥檔 h欧n), er enghraifft os ydych chi鈥檔 symud. Ni fyddwch fel arfer yn cael unrhyw arian cyn i chi symud.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu 么l-ddyddio鈥檆h cais - gofynnwch i鈥檆h cyngor.
Apelio yn erbyn penderfyniad
Gallwch ofyn i鈥檆h cyngor am ailystyried penderfyniad Budd-dal Tai.
Os ydych yn anfodolon 芒鈥檙 ymateb gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad.
5. Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Mae angen i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau ar eich cyfer chi ac unrhyw un arall yn eich t欧.
Efallai y bydd eich cais yn cael ei stopio neu ei leihau os na fyddwch yn rhoi gwynod am newid mewn amgylchiadau ar unwaith.
Gall y newidiadau gynnwys:
- dechrau neu stopio gwaith, addysg, hyfforddiant neu brentisiaeth
- newidiadau i鈥檙 budd-daliadau rydych chi neu unrhyw un arall yn eich t欧 yn eu cael
- newidiadau i鈥檆h pensiwn personol neu bensiwn gweithle
- newidiadau i鈥檆h cynilion, buddsoddiadau neu eiddo
- eich incwm yn mynd i fyny neu i lawr
- symud t欧
- eich rhent yn mynd i fyny neu i lawr
- mynd dramor am unrhyw hyd
- mynd i鈥檙 ysbyty, cartref gofal neu lety cysgodol
- pobl sy鈥檔 symud i mewn neu allan o鈥檆h t欧 (er enghraifft eich partner, plentyn neu letywr)
- cael babi
- eich partner neu rywun rydych chi鈥檔 byw gyda nhw yn marw
- eich plentyn yn troi鈥檔 18 oed
- newidiadau i鈥檆h statws mewnfudo, os nad ydych chi鈥檔 ddinesydd Prydeinig
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor os nad ydych yn sicr a oes angen i chi roi gwybod am newid.
Sut i roi gwybod
Rhowch wybod am newid mewn amgylchiadau i鈥檆h cyngor.
Os ydych yn cael budd-daliadau eraill
Mae angen i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau ar gyfer yr holl fudd-daliadau a gewch.
Os yw鈥檆h budd-dalidau eraill yn dod i ben
Mae rhai budd-daliadau yn dod i ben os ewch yn 么l i鈥檙 gwaith, gweithio mwy o oriau neu ennill mwy o arian.
Os bydd hyn yn digwydd, gallai eich cyngor:
- rhoi 4 wythnos ychwanegol o fudd-dal tai i chi (鈥楾aliad Estynedig o Fudd-dal Tai鈥�)
- dechrau talu 鈥楤udd-dal Tai mewn Gwaith鈥� i chi
Nid oes rhaid i chi wneud cais - bydd eich cyngor yn penderfynu a ydych chi鈥檔 gymwys i gael help ac yn ysgrifennu i roi gwybod i chi.
Os ydych wedi cael eich talu gormod
Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu鈥檙 arian os rydych:
- heb roi gwybod am newid ar unwaith
- wedi gwybodaeth anghywir
- wedi cael eich eich gordalu trwy gamgymeriad
Darganfyddwch sut i ad-dalu鈥檙 arian sy鈥檔 ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.
6. Help gyda chostau tai eraill
Ni fydd Budd-dal Tai yn cwmpasu gwresogi, d诺r poeth, ynni neu fwyd. Os ydych angen help, defnyddiwch cyfrifiannell budd-daliadau i weld beth arall y gallai fod gennych hawl iddo.
Cymorth ychwanegol i dalu鈥檙 rhent
Gallech hefyd wneud cais am help ychwanegol gan eich cyngor os nad yw鈥檆h Budd-dal Tai yn talu am eich rhent. Gelwir hyn yn Daliad Tai Dewisol.
Help gyda chostau gwresogi
Gwiriwch pa help y gallwch ei gael gyda chostau gwresogi ac ynni.