Budd-dal Plant os ydych yn gadael y DU
Rhowch wybod i鈥檙 Swyddfa Budd-dal Plant os ydych yn mynd dramor am fwy nag 8 wythnos.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mynd dramor am gyfnod byr
Byddwch yn dal i gael Budd-dal Plant os ydych yn gadael y DU am gyfnod byr, er enghraifft i fynd ar wyliau neu ar gyfer triniaeth feddygol.
Rheswm dros adael | Pa mor hir y bydd eich taliadau Budd-dal Plant yn parhau |
---|---|
Marwolaeth aelod o鈥檆h teulu | Hyd at 12 wythnos |
Triniaeth feddygol ar eich cyfer chi, neu ar gyfer aelod o鈥檆h teulu | Hyd at 12 wythnos |
Unrhyw reswm arall, er enghraifft gwyliau neu fusnes | Hyd at 8 wythnos |
Mynd dramor am gyfnod hirach
Mae鈥檔 bosibl y gallwch barhau i gael Budd-dal Plant am gyfnod hirach os ewch i fyw mewn gwledydd penodol, neu os ydych yn was y Goron.
Byw yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr I芒 neu Liechtenstein
Os gwnaethoch symud i wlad yn yr UE (yn Saesneg), y Swistir, Norwy, Gwlad yr I芒 neu Liechtenstein cyn 1 Ionawr 2021 (neu os ydych yn cael eich cwmpasu gan un o amodau eraill Cytundeb Ymadael 芒鈥檙 UE), mae鈥檔 bosibl y byddwch yn cael Budd-dal Plant am y plant sy鈥檔 byw gyda chi. Bydd angen i鈥檙 canlynol fod yn wir:
- rydych yn agored i dalu Yswiriant Gwladol yn y DU (yn Saesneg)
- rydych yn gyflogedig neu鈥檔 hunangyflogedig
Mae鈥檔 bosibl y gallwch hefyd gael Budd-dal Plant os ydych yn cael un o鈥檙 budd-daliadau canlynol:
- Lwfans Ceisio Gwaith newydd
- Budd-dal Analluogrwydd
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Gyfraniadau
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Lwfans Profedigaeth (Pensiwn Gweddwon)
- Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
Os ydych chi a鈥檆h partner yn byw mewn gwledydd gwahanol, mae鈥檔 bosibl eich bod yn gymwys i gael Budd-dal Plant, neu鈥檙 budd-dal cyfatebol, yn y ddwy wlad. Fel arfer, y wlad lle mae鈥檙 plentyn yn byw yw鈥檙 wlad sy鈥檔 talu鈥檙 budd-dal. Os yw鈥檙 budd-dal yn uwch yn y wlad arall, bydd y wlad honno yn talu swm ychwanegol i chi.
Byw mewn gwlad sydd 芒 chytundeb nawdd cymdeithasol gyda鈥檙 DU
Mae鈥檔 bosibl y gallwch gael Budd-dal Plant os ydych yn byw yn un o鈥檙 gwledydd canlynol:
- Barbados
- Bosnia a Herzegovina
- Canada
- Ynysoedd y Sianel
- Israel
- Kosovo
- Mauritius
- Montenegro
- Seland Newydd
- Gogledd Macedonia
- Gweriniaeth Iwerddon
- Serbia
Cysylltwch 芒鈥檙 Swyddfa Budd-dal Plant i gael gwybod os gallwch wneud hawliad.
Gweision y Goron sydd wedi鈥檜 lleoli dramor
Gallwch gael Budd-dal Plant os ydych yn was y Goron ac yn gweithio unrhyw le y tu allan i鈥檙 DU 鈥� a hynny os yw鈥檆h plentyn yn byw gyda chi neu beidio. Mae鈥檔 rhaid i chi naill ai fod wedi byw yn y DU, neu fod wedi cael eich lleoli yn y DU, cyn i chi gael eich lleoli dramor.
Rhowch wybod i鈥檙 Swyddfa Budd-dal Plant ar unwaith os ydych yn gadael y DU聽er mwyn cael eich lleoli dramor. Gallwch wneud hyn drwy naill ai:
- rhoi gwybod am newid ar-lein (yn Saesneg), neu
- ysgrifennu i鈥檙 Swyddfa Budd-dal Plant, neu ei ffonio