Terfynu鈥檆h atwrneiaeth arhosol

Gallwch derfynu鈥檆h atwrneiaeth arhosol (LPA) eich hun - os oes gennych alluedd meddyliol i wneud y penderfyniad hwnnw.

Rhaid i chi anfon y canlynol i Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG):

  • yr LPA wreiddiol
  • datganiad ysgrifenedig o鈥檙 enw 鈥榞weithred diddymu鈥�

Defnyddiwch y geiriau canlynol ar gyfer y weithred diddymu. Newidiwch y geiriau yn y cromfachau sgw芒r gyda鈥檙 manylion perthnasol.

Gweithred diddymu

鈥淢ae鈥檙 weithred ddiddymu hon yn cael ei gwneud gan [eich enw] o [eich cyfeiriad].

1: Dyfarnais atwrneiaeth arhosol ar gyfer eiddo a materion ariannol/iechyd a lles (rhaid dileu fel sy鈥檔 briodol) ar [dyddiad llofnodi鈥檙 atwrneiaeth arhosol gennych] yn penodi [enw鈥檙 atwrnai cyntaf] o [cyfeiriad yr atwrnai cyntaf] a/ac [enw鈥檙 ail atwrnai] o [cyfeiriad yr ail atwrnai] i weithredu fel fy atwrnai(atwrneiod).

2: Rwyf yn diddymu鈥檙 atwrneiaeth arhosol a鈥檙 awdurdod sydd wedi鈥檌 ddyfarnu fel rhan ohoni.

Llofnodwyd a chyflwynwyd fel gweithred [eich llofnod]
Dyddiad llofnodi [dyddiad]
Tystiwyd gan [llofnod y tyst]
Enw llawn y tyst [enw鈥檙 tyst]
Cyfeiriad y tyst [cyfeiriad y tyst]鈥�

Rhaid i chi allu gwneud eich penderfyniadau eich hun pan rydych yn terfynu鈥檆h LPA.

Hefyd gallwch wneud cwyn os oes gennych bryderon am eich atwrnai, er enghraifft, os nad yw鈥檔 cyflawni ei gyfrifoldebau鈥檔 briodol.

Ffyrdd eraill y gall atwrneiaeth arhosol ddod i ben

Gall eich LPA ddod i ben os bydd eich atwrnai:

  • yn colli鈥檙 gallu i wneud penderfyniadau - 鈥榗olli galluedd meddyliol鈥�
  • yn eich ysgaru chi neu鈥檔 rhoi terfyn ar eich partneriaeth sifil os yw鈥檔 诺r, gwraig neu bartner i chi
  • yn dod yn fethdalwr neu鈥檔 destun gorchymyn rhyddhad dyledion - os yw鈥檔 atwrnai eiddo a materion ariannol
  • yn cael ei atal gan y Llys Gwarchod
  • yn marw

Os bydd eich unig atwrnai鈥檔 marw

Bydd eich LPA yn dod i ben os bydd eich atwrnai鈥檔 marw ac os nad oes gennych chi unrhyw atwrneiod newydd. Rhaid i chi ddweud wrth Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus ac anfon y canlynol iddi:

  • yr LPA wreiddiol
  • pob copi ardystiedig o鈥檙 LPA
  • cyfeiriad dychwelyd ar gyfer anfon eich dogfennau鈥檔 么l atoch

Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus
[email protected]
Ff么n (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ff么n testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus

Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus / Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

Caiff eich LPA barhau os:

Os byddwch yn marw

Bydd eich LPA yn dod i ben yn awtomatig pan fyddwch yn marw. Bydd eich materion yng ngofal eich ysgutorion neu eich cynrychiolwyr personol wedyn, nid eich atwrnai.