Arddangos platiau rhif
Baneri, dynodwyr a sticeri
Gallwch arddangos un o鈥檙 baneri canlynol gyda llythrennau adnabod ar ochr chwith y pl芒t rhif:
- baner yr Undeb (a elwir hefyd yn Jac yr Undeb)
-
Croes San Si么r
-
Croes Sant Andreas - a elwir hefyd y Saltire
- Draig Goch Cymru
Y llythrennau, neu鈥檙 dynodwyr cenedlaethol, y gallwch eu cael yw:
-
UNITED KINGDOM, United Kingdom neu UK
-
GREAT BRITAIN, Great Britain neu GB
-
CYMRU, Cymru, CYM neu Cym
-
ENGLAND, England, ENG, Eng
-
SCOTLAND, Scotland, SCO neu Sco
-
WALES neu Wales
Rhaid i鈥檙 faner fod uwchben y dynodwr. Ni allwch gael y faner na鈥檙 llythrennau ar ymyl y pl芒t rhif, ac ni all y naill na鈥檙 llall fod yn fwy na 50 milimetr o led.
Sticeri ar gyfer gyrru y tu allan i鈥檙 DU
Efallai y bydd angen ichi arddangos sticer DU hirgrwn gwyn ar gefn eich cerbyd wrth yrru y tu allan i鈥檙 DU. Mae hyn yn dibynnu ar eich pl芒t rhif a ble rydych yn mynd.
Nid oes angen sticer DU arnoch os oes gan eich pl芒t rhif y dynodwr DU gyda baner yr Undeb (a elwir hefyd yn Jac yr Undeb).
Rhaid ichi arddangos sticer DU os oes gan eich pl芒t rhif unrhyw un o鈥檙 rhain:
-
rhifau a llythrennau yn unig, dim baner na dynodwr
-
dynodwr GB gyda baner yr Undeb
-
baner yr Undeb Ewropeaidd
-
baner genedlaethol Cymru, Lloegr neu鈥檙 Alban
Mae sticeri DU wedi disodli鈥檙 hen sticeri GB hirgrwn gwyn. Os oes gennych sticer GB, gorchuddiwch neu tynnwch ef cyn gyrru y tu allan i鈥檙 DU.
Peidiwch 芒 rhoi鈥檙 sticer ar eich pl芒t rhif.
Gyrru yn Sbaen, Cyprus a Malta
Rhaid ichi arddangos sticer y DU i yrru yn Sbaen, Cyprus a Malta, ni waeth beth sydd ar eich pl芒t rhif.
Gyrru yng Ngweriniaeth Iwerddon
Nid oes angen sticer DU arnoch i yrru yn Iwerddon waeth beth sydd ar eich pl芒t rhif.