Apelio dirwy DVLA

Efallai y gallwch apelio yn erbyn dirwy a gawsoch am:

  • beidio 芒 threthu neu yswirio eich cerbyd
  • peidio 芒 dweud wrth DVLA nad yw鈥檙 cerbyd gennych bellach

Mae鈥檙 dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Rhesymau y gallwch apelio

Gallwch apelio i DVLA os oes gennych brawf:

  • eich bod wedi trethu鈥檆h cerbyd
  • roedd gennych yswiriant ar gyfer eich cerbyd
  • eich bod eisoes wedi dweud wrth DVLA nad ydych bellach yn geidwad y cerbyd

Rhaid i鈥檆h prawf (er enghraifft, llythyr cydnabyddiaeth gan DVLA) fod wedi鈥檌 ddyddio cyn y drosedd.

Ni allwch apelio os gwnaethoch chi:

  • newid eich cyfeiriad ond ni wnaethoch ddweud wrth DVLA
  • colli鈥檆h gwaith papur neu na chawsoch nodyn atgoffa gan DVLA
  • anghofio neu roeddech i ffwrdd pan oedd yn rhaid ichi drethu, yswirio neu gofrestru鈥檆h cerbyd fel oddi ar y ffordd (HOS)
  • methu taliad Debyd Uniongyrchol oherwydd problem gyda鈥檆h banc

Rhaid ichi dalu鈥檙 ddirwy cyn gynted 芒 phosibl os nad oes gennych reswm dilys.

骋补濒濒飞肠丑听dalu ar-lein am ddirwyon treth cerbyd a HOS, ond mae鈥檔 rhaid ichi dalu pob dirwy arall dros y ff么n neu drwy鈥檙 post. Bydd eich llythyr yn dweud wrthych sut i dalu.

Os nad ydych yn talu鈥檙 ddirwy gall eich cerbyd gael ei glampio neu鈥檌 falu, gall eich manylion gael eu rhoi i asiantaeth casglu dyledion, neu gellir mynd 芒 chi i鈥檙 llys.

Sut i apelio

Bydd y llythyr a gawsoch gan DVLA sy鈥檔 dweud eich bod wedi cael dirwy yn dweud wrthych sut i apelio a pha mor hir sydd gennych.

Os ydych wedi colli eich llythyr gallwch apelio鈥檔 ysgrifenedig i DVLA:

Canolfan Gorfodaeth DVLA
D12
DVLA
Abertawe
SA99 1AH

Rhaid ichi gynnwys rhif cofrestru eich cerbyd.

Beth sy鈥檔 digwydd nesaf

Bydd DVLA yn cysylltu 芒 chi ar 么l iddynt gael eich ap锚l i ddweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf.