Ad-daliadau TAW
Os gwnaethoch godi llai o TAW ar eich cwsmeriaid nag oeddech wedi talu ar eich pryniannau, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) fel arfer yn ad-dalu’r gwahaniaeth i chi.
Pan fyddwch yn llenwi’r bylchau ar eich Ffurflen TAW, bydd yr wybodaeth a nodwyd gennych yn dangos y canlynol:
- cyfanswm y TAW a godwyd � Blwch 3
- cyfanswm y TAW a dalwyd � Blwch 4
Os yw’r ffigur ym Mlwch 3 yn llai na’r ffigur ym Mlwch 4, mae ad-daliad yn ddyledus i chi.
Dangosir y swm a fydd yn cael ei ad-dalu i chi ym Mlwch 5 ar eich Ffurflen TAW.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Fel arfer, caiff ad-daliadau eu gwneud cyn pen 30 diwrnod ar ôl i CThEF gael eich Ffurflen TAW. Cysylltwch â CThEF os nad ydych wedi cael gwybod unrhyw beth ar ôl 30 diwrnod.
Bydd eich ad-daliad yn mynd yn syth i’ch cyfrif banc os oes gan CThEF eich manylion banc. Fel arall, bydd CThEF yn anfon siec atoch (a elwir hefyd yn ‘archeb talu�). Gallwch newid y manylion y mae CThEF yn eu defnyddio i wneud eich ad-daliad.
Olrhain ad-daliad TAW
Gallwch .
Os dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu ar neu cyn 31 Rhagfyr 2022
Gallech gael iawndal (a elwir hefyd yn ‘atodiad ad-daliad�) os yw CThEF yn cymryd mwy na 30 diwrnod i gymeradwyo’ch ad-daliad.
Mae’r cyfnod o 30 diwrnod yn dechrau o’r diwrnod y mae CThEF yn cael eich Ffurflen TAW ac yn dod i ben ar y diwrnod y maent yn cymeradwyo’ch ad-daliad, nid ar y diwrnod y byddwch yn ei gael. Â
Nid yw CThEF yn cyfrif y dyddiau a gymerwyd i wirio bod eich Ffurflen TAW yn gywir ac yn gyfreithlon, nac yn cyfrif y dyddiau a gymerwyd i gywiro unrhyw wallau neu hepgoriadau, fel rhan o’r cyfnod 30 diwrnod hwn.
Mae’r atodiad ad-dalu yn £50 neu 5% o’ch ad-daliad � pa un bynnag yw’r swm uchaf.
Os daw eich Ffurflen TAW i law cyn diwedd y cyfnod cyfrifyddu y mae ar ei gyfer, bydd y 30 diwrnod yn dechrau ar ddiwedd y cyfnod.
Ni chewch atodiad ad-dalu os yw’r canlynol, er enghraifft, yn berthnasol:
- mae CThEF yn cael eich Ffurflen TAW ar ôl y dyddiad cau ar gyfer eich taliad
- gwnaethoch wallau ar eich Ffurflen TAW sy’n gostwng eich cais mwy na 5% neu £250 (pa un bynnag yw’r swm uchaf)
- mae gennych Ffurflenni TAW cynharach ar goll ar yr adeg y bydd eich Ffurflen TAW bresennol yn dod i law CThEF
Os dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023
Os bydd CThEF yn hwyr yn eich talu, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i log ar ad-daliadau ar unrhyw TAW sy’n ddyledus i chi gan CThEF.
Telir llog ar ad-daliadau ar gyfradd sylfaen Banc Lloegr minws 1%, gyda chyfradd isaf o 0.5%.
Ad-daliadau i gyfrif banc tramor
Gallwch ond cael ad-daliadau TAW i gyfrif banc tramor os nad oes gan eich cwmni y canlynol:
-
cyfrif banc yn y DU (ac ni allwch gael un)
-
cyfeiriad yn y DU
Er mwyn i CThEF wneud taliad i’ch cyfrif banc tramor, mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir:
-
mae’r cyfrif yn enw’r cwmni y mae’r ad-daliad yn ddyledus iddo
-
mae’ch cyfrif yn gysylltiedig â pherchennog busnes sydd wedi’i enwi neu berson awdurdodedig sydd â manylion ar gyfer gwasanaethau CThEF
-
mae’r cyfrif yn gallu derbyn ad-daliad mewn punnoedd sterling
Mae’n rhaid i chi cyn y gall CThEF drosglwyddo unrhyw ad-daliadau TAW. Yna, bydd pob ad-daliad TAW yn cael ei anfon i’r cyfrif banc hwn.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen hon i ddiweddaru’ch manylion banc ac i drosglwyddo unrhyw sieciau, sydd heb eu cyflwyno, fel taliadau electronig i’w talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc.
Bydd angen i chi mewngofnodi i gyflwyno’ch gwybodaeth. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.
Os oes angen siec newydd arnoch, neu os hoffech gael eich talu drwy ddull arall
Gallwch ysgrifennu at Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a gofyn iddynt wneud y canlynol:
-
anfon siec newydd atoch os yw’ch un chi ar goll neu’n rhy hen i fod yn ddilys
-
anfon yr ad-daliad i’r cyfrif banc sydd wedi’i gadw ar eich cyfrif treth busnes
-
anfon yr ad-daliad i rywle arall gan nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW bellach
-
defnyddio’r ad-daliad i dalu treth arall
Os nad ydych yn mynd i ddefnyddio’ch sieciau, neu os maent yn rhy hen i fod yn ddilys, mae’n rhaid i chi eu hanfon yn ôl atom.
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Cyllid a Thollau EF
BX9 1XD