Hawlio ad-daliad ffi dirprwyaeth

Printable version

1. Trosolwg

Efallai eich bod yn gymwys i gael ad-daliad os yw Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer Cymru a Lloegr wedi codi gormod arnoch am ffioedd dirprwyaeth.

Ni wneir ad-daliadau ond yn achos asesiadau a goruchwyliaeth flynyddol dirprwyaeth a ddigwyddodd rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2015.

I gael gwybod a oes arian yn ddyledus i chi a faint fyddwch chi鈥檔 ei gael, bydd angen i chi gyflwyno hawliad i Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Os ydych chi鈥檔 ddirprwy yn gweithredu o dan orchymyn llys cyfredol, nid oes angen i chi wneud cais am ad-daliad. Bydd unrhyw ffioedd gormodol a godwyd yn cael eu had-dalu鈥檔 awtomatig.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno hawliadau am ad-daliadau ydy 4 Hydref 2022.

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Faint gewch chi

Bydd faint gewch chi鈥檔 dibynnu ar:

  • faint o arian yr ydych chi wedi ei dalu a鈥檙 gyfradd
  • ers pryd ydych chi wedi bod yn talu
  • oes gennych chi unrhyw ffioedd heb eu talu

Bydd y rhan fwyaf o ad-daliadau鈥檔 llai na 拢200. Byddwch chi hefyd yn cael 0.5% o log.

2. Pwy sy'n cael hawlio

Gallwch wneud hawliad os:

  • oedd gennych chi ddirprwy o鈥檙 blaen
  • ydych chi鈥檔 gweithredu ar ran rhywun a oedd 芒 dirprwy ac sydd wedi marw

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 ddirprwyaeth fod wedi bod yn weithredol rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2015.

Os ydych chi鈥檔 dal i weithredu fel dirprwy, nid oes angen i chi wneud cais. Bydd unrhyw ffioedd gormodol a godwyd yn cael eu had-dalu鈥檔 awtomatig.

Os oedd gennych chi ddirprwy o鈥檙 blaen

Os oedd gennych chi ddirprwy ond eich bod erbyn hyn yn gwneud penderfyniadau dros eich hun, gallwch wneud cais am ad-daliad.

Gallwch chi hefyd ofyn i鈥檆h atwrnai eiddo a materion ariannol wneud hawliad ar eich rhan.

Os ydych chi鈥檔 gweithredu ar ran rhywun sydd wedi marw

Os ydy鈥檙 sawl a oedd yn arfer bod 芒 dirprwyaeth (y 鈥榗leient鈥�) wedi marw, rhaid i ysgutor yr ewyllys hawlio鈥檙 ad-daliad.

Os nad oes ysgutor, gall gweinyddwr yr ystad wneud cais.

Os nad oes gweinyddwr i鈥檙 ystad, gall aelod o鈥檙 teulu wneud cais.

Beth fyddwch chi鈥檔 ei wneud 芒鈥檙 ad-daliad

Dylai unrhyw ad-daliad a dderbynnir gael ei rannu rhwng buddiolwyr ystad y cleient.

Os ydy ystad y cleient eisoes wedi cael ei setlo, gallwch gael help gan neu gyfreithiwr i wneud yn si诺r eich bod yn cydymffurfio 芒鈥檙 gyfraith.

3. Beth fydd ei angen arnoch i hawlio

I hawlio, bydd arnoch angen manylion y sawl a oedd 芒鈥檙 ddirprwyaeth (y 鈥榗leient鈥�). Mae hyn yn cynnwys:

  • enw
  • dyddiad geni
  • cyfeiriad pan ddaeth y ddirprwyaeth i ben
  • dyddiad marwolaeth (os yw鈥檔 berthnasol)

Bydd arnoch hefyd angen darparu manylion y cyfrif banc rydych chi eisiau i鈥檙 ad-daliad gael ei dalu iddo (os nad oes arnoch eisiau ad-daliad drwy siec).

Dogfennau y bydd angen i chi eu darparu

Bydd angen i chi anfon prawf o鈥檆h:

  • enw
  • cyfeiriad
  • hawl i apelio (os nad chi ydy鈥檙 cleient)

Gallwch anfon dogfennau wedi鈥檜 sganio neu eu llungop茂o.

Gallwch chi hefyd anfon y dogfennau gwreiddiol. Byddant yn cael eu dychwelyd atoch chi drwy鈥檙 post.

Bydd angen i chi anfon darn gwahanol o dystiolaeth ar gyfer pob math o brawf.

Prawf o鈥檆h enw

Gall hyn olygu:

  • pasbort cyfredol wedi鈥檌 lofnodi (copi o鈥檙 dudalen sy鈥檔 dangos eich enw a鈥檆h llun)
  • tystysgrif geni neu fabwysiadu wreiddiol
  • trwydded yrru cerdyn llun DU neu AEE gyfredol (dim trwydded dros dro)
  • trwydded yrru lawn o鈥檙 hen fath
  • cerdyn adnabod aelod wladwriaeth neu gerdyn adnabod cenedlaethol gyda llun AEE
  • llyfr budd-daliadau neu lythyr hysbysiad gwreiddiol gan yr asiantaeth budd-daliadau

Prawf o鈥檆h cyfeiriad

Gall hyn olygu:

  • bil cyfleustodau (dim bil ff么n symudol) o鈥檙 12 mis diwethaf
  • bil treth cyngor cyfredol
  • cyfriflen banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd neu lyfr cyfrif wedi鈥檌 ddyddio yn ystod y 3 mis diwethaf
  • cyfriflen morgais wreiddiol a gyhoeddwyd ar gyfer y flwyddyn lawn ddiwethaf
  • cerdyn rhent cyngor neu gymdeithas dai neu gytundeb tenantiaeth ar gyfer y flwyddyn gyfredol

Prawf o鈥檆h hawl i wneud cais

Rhowch gopi o:

  • dyfarniad profiant (ysgutorion)
  • llythyrau gweinyddu (gweinyddwyr)
  • tystysgrif marwolaeth (aelodau o鈥檙 teulu)

Os ydych chi鈥檔 atwrnai eiddo a materion ariannol, rhaid i chi ddarparu cyfeirnod yr atwrneiaeth arhosol.

4. Sut mae hawlio

Bydd angen i chi lenwi ffurflen a鈥檌 hanfon gyda鈥檆h tystiolaeth.

Hawlio drwy e-bost

Anfonwch y ffurflen a鈥檙 dystiolaeth fel atodiadau e-bost i:

[email protected]

Bydd angen i chi atodi cop茂au wedi鈥檜 sganio neu luniau clir o鈥檙 dogfennau gwreiddiol. 10MB yw maint mwyaf y negeseuon e-bost a ganiateir ond gallwch chi anfon mwy nag un neges.

Teipiwch 鈥楥ais am ad-daliad ffi dirprwyaeth鈥� yn llinell pwnc y neges e-bost.

Hawlio drwy鈥檙 post

Postiwch y ffurflen a鈥檆h tystiolaeth i:

Deputyship fee refunds
Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus
PO Box 10796
Nottingham
NG2 9WF

Hawlio dros y ff么n

Os na allwch chi hawlio drwy e-bost na llenwi鈥檙 ffurflen eich hun, cysylltwch 芒鈥檙 llinell gymorth. Bydd angen i chi anfon tystiolaeth yr un fath.

Llinell Gymorth Ad-daliadau
[email protected]
Ff么n (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300 (dewiswch opsiwn 6)
Ff么n testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am ffioedd galw
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus

5. Ar 么l i chi hawlio

Byddwch yn cael gwybod drwy e-bost neu lythyr:

  • pan fydd eich cais wedi cyrraedd
  • os oes unrhyw wybodaeth ar goll
  • os ydy eich hawliad yn llwyddiannus
  • swm yr ad-daliad a phryd bydd yn cael ei dalu
  • y rhesymau dros wrthod

Pryd fyddwch chi鈥檔 cael yr ad-daliad

Mae鈥檔 gallu cymryd hyd at 10 wythnos i gael penderfyniad i 2 wythnos arall i gael yr ad-daliad.

Os caiff eich hawliad ei wrthod

Gallwch apelio drwy gysylltu 芒鈥檙 Llinell Gymorth Ad-daliadau.

Llinell Gymorth Ad-daliadau
[email protected]
Ff么n (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300 (dewiswch opsiwn 6)
Ff么n testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am ffioedd galw
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus